Skip navigation (access key S)
  • English language
  • Welsh language
  • Urdu language
  • Chinese language
  • Bengali language
  • Punjabi language
  • Gujarati language
  • Hindi language
  • Arabic language
  • Turkish language
Cyngor cyfreithiol cyfrinachol am ddim: 0845 345 4 345

Am gyngor cyfreithiol arbenigol am ddim

0845 345 4 345

Ffoniwch Cyngor Cyfreithiol Cymunedol (Community Legal Advice):

  • Cyngor diduedd, cyfrinachol am ddim y telir amdano gan gymorth cyfreithiol
  • Gwasanaeth gwaith achos llawn
  • Llun - Gwener 9am - 6.30pm
  • Galwadau o 4c/funud - galwad yn ôl ar gael

Canfod ymgynghorydd

 

35 Beth yw ymddygiad gwrth-gymdeithasol, a beth fedrir ei wneud amdano?

Ymddygiad gwrth-gymdeithasol yw pan fo person wedi achosi, neu’n debygol o achosi harasiaeth, dychryn neu ddistres i rywun nad yw’n byw ar yr un aelwyd â hwy.

Os ydych chi’n cael problemau gydag ymddygiad gwrth-gymdeithasol fe ddylech chi ysgrifennu at eich awdurdod lleol yn gofyn iddyn nhw ymchwilio. Fe fedrwch chi hefyd ofyn i’ch cyngor lleol i weithio gyda’r Heddlu i geisio cael ateb i’r broblem.

Gall eich awdurdod lleol benderfynu fod digon o dystiolaeth i wneud cais i’r Llys Sirol am Orchymyn Ymddygiad Gwrth-Gymdeithasol. Defnyddir hyn i wahardd y person gwrth-gymdeithasol rhag ymddwyn mewn ffordd sy’n achosi niwsans neu annifyrrwch yn eich ardal. Mae gorchymyn Ymddygiad Gwrth-Gymdeithasol yn para am o leiaf ddwy flynedd, ac mae ei dorri yn drosedd a all gael ei chosbi gyda hyd at 5 mlynedd mewn carchar.

Os ydych chi angen help i ddelio gydag ymddygiad gwrth-gymdeithasol, neu unrhyw agwedd arall o dai, rydyn ni’n argymell eich bod chi’n siarad gydag un o’n cynghorwyr tai i gael cyngor arbenigol.


Nol





*