31 Rwy’n cael fy nhroi allan o fy nghartref oherwydd ôl-ddyled morgais. Beth fedraf i wneud?
Os ydych chi’n cael trafferth i dalu eich morgais, mae’n bwysig gweithredu’n gyflym i osgoi’r risg o golli eich cartref.
Fodd bynnag, ni fedrir adfeddiannu eich cartref nes:
- Yn gyntaf, fod eich benthycydd morgais wedi cael Gorchymyn Llys i adfeddiannu’r eiddo; ac
- Yn ail, mae’r Llys wedi rhoi gwarant i Feili Llys i’ch troi allan o’ch cartref.
Eich cam cyntaf ddylai fod i drafod yr ôl-ddyled morgais gyda’ch Banc, Cymdeithas Adeiladu neu fenthycydd arall. Bydd y rhan fwyaf o fenthycwyr yn hapus iawn i drafod unrhyw ôl-ddyled gyda chi, fel y medran nhw geisio datrys y broblem yn gyflym. Fe ddylech edrych ar eich incwm a’r hyn rydych yn wario, a cheisio dod i gytundeb gyda’ch benthycydd ar yr ôl-ddyled. Gall fod yn bosibl i chi gytuno ar daliadau mwy realistig ar eich morgais i osgoi colli eich cartref.
Os ydych chi angen help i ddelio gyda’ch ôl-ddyled morgais, neu unrhyw agwedd arall o dai, rydyn ni’n argymell eich bod yn siarad gydag un o’n cynghorwyr tai i gael cyngor arbenigol.
Browse topics
- Benefits
- Communications and media
- Consumer affairs
- Education and training
- Employment
- Environment and countryside
- Family and personal
- Government, law and rights
- Health and social care
- Housing and homelessness
- Immigration and nationality
- Money and tax
- Police and crime
- Transport, travel and leisure
Do you help people get advice?
If you talk to people who may need legal advice, see how Community Legal Advice can help you.










