Yn yr adran hon
Angen siarad â rhywun nawr?
- Cael cyngor cyfreithiol cyfrinachol am ddim
Galwch 0845 345 4 345 - Dydd Llun i Ddydd Gwener 9.00am i 8.00pm
- Dydd Sadwrn 9.00am i 12.30pm
- Mae galwadau yn costio o 4c y funud - neu gofynnwch i ni eich ffonio'n ôl
Chwiliwch am gynghorwyr yn eich ardal chi
30. Fe'm troir allan oherwydd fy ôl-ddyled rhent. Beth alla i ei wneud?
Ble i droi os oes perygl i chi golli eich cartref oherwydd eich ôl-ddyled rhent.
Os oes gennych ôl-ddyled rhent, mae'n bwysig gweithredu'n gyflym i osgoi'r perygl o gael eich taflu allan.
Fodd bynnag, yn y rhan fwyaf o achosion, ni ellir eich taflu allan o'ch cartref hyd nes:
- yn gyntaf, y caiff eich landlord orchymyn llys i adfeddiannu'r eiddo; ac
- yn ail, bod y llys wedi rhoi gwarant i feili llys i'ch troi allan.
Os derbyniwch rybudd fod eich landlord eisiau eich troi allan oherwydd bod gennych ôl-ddyled rhent, dylech yn gyntaf wirio eich llyfr rhent, datganiad taliadau a derbyniadau i wneud yn siŵr fod y swm y dywed y landlord sy'n ddyledus gennych yn gywir.
Dylech wedyn drafod yr ôl-ddyled rhent gyda'ch landlord, a cheisio dod i gytundeb ynglŷn ag ad-dalu. Os nad yw hyn yn bosibl, neu os nad yw'r landlord yn derbyn yr hyn y gallwch ei fforddio i'w dalu, dylech geisio cael cyngor heb oedi. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd y llys yn edrych ar y sefyllfa ac yn penderfynu a all y landlord eich troi allan ai peidio. Ond os ydych ag ôl-ddyled rhent o fwy na dau fis neu wyth wythnos, gall y llys roi'r hawl hwnnw iddo'n awtomatig.
Fodd bynnag, mae cyfraith tenantiaeth yn gymhleth, ac mae'r rheolau ynglŷn â sut a phryd y gall landlord eich troi allan yn dibynnu, ymysg pethau eraill, ar y math o gytundeb sydd gennych â'ch landlord.
Os oes angen cymorth arnoch i ddelio â'ch ôl-ddyled rhent, neu unrhyw wedd arall ar dai,
fe'ch argymhellwn i siarad ag un o'n ymgynghorwyr tai ar 0845 345 4 345 i gael cyngor arbenigol. Nid yw cyngor arbenigol ar y ffôn ar gael ond yn unig os ydych yn gymwys am gymorth cyfreithiol.

