Skip navigation (access key S)
  • English language
  • Welsh language
  • Urdu language
  • Chinese language
  • Bengali language
  • Punjabi language
  • Gujarati language
  • Hindi language
  • Arabic language
  • Turkish language
Cyngor cyfreithiol cyfrinachol am ddim: 0845 345 4 345

Am gyngor cyfreithiol arbenigol am ddim

0845 345 4 345

Ffoniwch Cyngor Cyfreithiol Cymunedol (Community Legal Advice):

  • Cyngor diduedd, cyfrinachol am ddim y telir amdano gan gymorth cyfreithiol
  • Gwasanaeth gwaith achos llawn
  • Llun - Gwener 9am - 6.30pm
  • Galwadau o 4c/funud - galwad yn ôl ar gael

Canfod ymgynghorydd

 

28 Rwy’n cael llai o dâl na’r isafswm cyflog? Beth fedraf i wneud?

Mae gan y rhan fwyf o weithwyr 18 oed a throsodd hawl cyfreithiol i’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Yr Isafswm Cyflogaeth os ydych rhwng 18 a 21 oed yw £4.25 yr awr ac mae’n £5.05 yr awr os ydych yn 22 oed a throsodd. Nid oes gan rai pobl, yn cynnwys pobl hunangyflogedig ac aelodau’r lluoedd arfog, hawl i’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Mae rheolau arbennig am gyflogau pobl eraill fel prentisiaid.

Os credwch nad yw’ch cyflogydd yn talu’r Isafswm Cyflog i chi, mae gennych hawl i edrych ar unrhyw gofnodion sydd ganddynt am eich cyflog. Dylech ysgrifennu llythyr at eich cyflogydd yn gofyn am gael gweld eich cofnodion cyflog a dylai’ch cyflogydd roi mynediad i chi iddynt o fewn 14 diwrnod. Os gofynnwch am gael edrych am eich cofnodion cyflog, rydych wedi cael eich diogelu’n gyfreithiol yn erbyn erledigaeth neu eich diswyddo gan eich cyflogydd oherwydd eich cais.

Os nad ydych yn cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol dylech un ai gysylltu â’r Swyddog Cydymffurfiaeth Isafswm Cyflog drwy ffonio Llinell Gymorth Genedlaethol Isafswm Cyflogaeth neu siarad gydag un o’n cynghorwyr cyflogaeth cyn gynted ag sy’n bosibl. Medrant eich helpu i wneud hawliad yn erbyn eich cyflogydd a’ch cynghori ar ffactorau eraill perthnasol megis y terfyn amser ar gyfer cyflwyno eich hawliad.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill am yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu os dymunwch wneud hawliad, yna gallwch gysylltu â’r Llinell Gymorth Isafswm Cenedlaethol ar 00845 6000 678

Os ydych angen help i ddelio gyda’ch cyflog neu unrhyw agwedd arall o gyflogaeth, rydyn ni’n argymell eich bod yn siarad gydag un o’n cynghorwyr cyflogaeth i gael cyngor arbenigol.




Nol





*