27 Pa hawliau sydd gan bobl dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd?
Os ydych chi’n anabl, mae’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd yn rhwystro gwahaniaethu yn eich erbyn ym mhob maes o gyflogaeth. Mae’n anghyfreithlon i gyflogydd wahaniaethu yn erbyn person anabl oherwydd eu bod yn anabl, wrth recriwtio a dethol, yn ystod cyflogaeth ac weithiau hyd yn oed ar ôl i’r gyflogaeth ddod i ben. Mae hefyd yn anghyfreithiol i gyflogydd, heb gyfiawnhad, i drin person anabl yn llai ffafriol yn y gwaith am reswm yn gysylltiedig â’u hanabledd neu fethu gwneud ‘addasiadau rhesymol’ i’r amgylchedd gwaith i alluogi person anabl i weithio.
Os ydych chi’n anabl ac yn dechrau mewn swydd newydd, neu’n cael anawsterau gyda’r trefniadau a wnaeth eich cyflogydd presennol, fe ddylech ysgrifennu at eich cyflogydd yn esbonio eich anabledd ac yn esbonio pa addasiadau y credwch y dylen nhw wneud. Dylech gadw copi o’ch llythyr rhag ofn fod anghydfod yn codi. Os yw’ch cyflogydd yn dweud nad ydych chi’n anabl bydd angen i chi gael tystiolaeth feddygol i ddangos eich bod yn ateb y diffiniad o berson anabl yn y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd.
Mae’r Ddeddf yn rhoi’r hawl i chi ddod â hawliad yn erbyn eich cyflogydd mewn Tribiwnlys Cyflogaeth os ydych chi’n credu fod eich cyflogydd wedi gwahaniaethu yn eich erbyn. Rhaid cyflwyno ceisiadau i’r Tribiwnlys Cyflogaeth o fewn tri mis yn dechrau gyda dyddiad gweithred eich cyflogydd yn gwahaniaethu yn eich erbyn.
Os ydych chi angen help i ddelio gyda gwahaniaethu neu unrhyw agwedd arall o gyflogaeth, rydyn ni’n argymell eich bod yn siarad gydag un o’n cynghorwyr cyflogaeth i gael cyngor arbenigol.
Browse topics
- Benefits
- Communications and media
- Consumer affairs
- Education and training
- Employment
- Environment and countryside
- Family and personal
- Government, law and rights
- Health and social care
- Housing and homelessness
- Immigration and nationality
- Money and tax
- Police and crime
- Transport, travel and leisure
Do you help people get advice?
If you talk to people who may need legal advice, see how Community Legal Advice can help you.










