Skip navigation (access key S)
  • English language
  • Welsh language
  • Urdu language
  • Chinese language
  • Bengali language
  • Punjabi language
  • Gujarati language
  • Hindi language
  • Arabic language
  • Turkish language
Cyngor cyfreithiol cyfrinachol am ddim: 0845 345 4 345

Am gyngor cyfreithiol arbenigol am ddim

0845 345 4 345

Ffoniwch Cyngor Cyfreithiol Cymunedol (Community Legal Advice):

  • Cyngor diduedd, cyfrinachol am ddim y telir amdano gan gymorth cyfreithiol
  • Gwasanaeth gwaith achos llawn
  • Llun - Gwener 9am - 6.30pm
  • Galwadau o 4c/funud - galwad yn ôl ar gael

Canfod ymgynghorydd

 

25 Beth ddylwn i gael fel taliad diswyddo?

Dylech edrych ar eich contract cyflogaeth er mwyn gweithio allan pa dâl diswyddo y mae gennych hawl iddo. Medrwch ddal fod â hawl cyfreithiol i dâl diswyddo os nad yw’ch contract yn sôn am daliad neu os nad oes gennych gontract.

Rhaid i chi fod wedi gweithio i’ch cyflogydd am o leiaf ddwy flynedd tra’r oeddech dros 18 oed i fod yn gymwys am dâl diswyddo. Fodd bynnag, nid yw’r rheol hon yn weithredol os credwch fod eich cyflogydd wedi gwahaniaethu yn eich erbyn yn y ffordd y cawsoch eich dewis ar gyfer eich diswyddo (er enghraifft os cawsoch eich dewis ar sail eich hil, rhyw, neu oherwydd unrhyw anabledd a all fod gennych).

Mae swm y tâl diswyddo yn dibynnu pa mor hir y cawsoch eich cyflogi, eich oedran a’ch cyflog wythnosol, cyn treth.

  • Ar gyfer pob blwyddyn o gyflogaeth barhaus rhwng 18 a 21 oed byddwch yn cael hanner wythnos o dâl;
  • Ar gyfer pob blwyddyn o gyflogaeth barhaus rhwng 22 a 40 oed, byddwch yn cael un wythnos o dâl;
  • Ar gyfer pob blwyddyn o gyflogaeth barhaus rhwng 41 a 65 oed byddwch yn derbyn wythnos a hanner o dâl.

Fodd bynnag, mae terfyn uchaf ar swm y tâl wythnosol y medrwch ei dderbyn. Yn ychwanegol, caiff unrhyw gyfnod o gyflogaeth barhaus dros 20 mlynedd ei anwybyddu ac am bob mis yr ydych dros 64 oed byddwch yn colli un rhan o ddeuddeg o’ch hawl.

Os nad yw’ch cyflogydd yn cynnig tâl diswyddo i chi neu os ydych yn anghytuno â’r swm, rydyn ni’n argymell eich bod yn siarad gydag un o’n cynghorwyr cyflogaeth i gael cyngor arbenigol.


Nol





*