24 Rydwi’n colli fy swydd a dwyf i ddim yn credu ei fod yn deg. Beth fedraf i wneud?
Os yw busnes eich cyflogydd yn cau, yn symud neu’n newid, gallant fod ganddynt hawl i’ch diswyddo. Os buoch yn y swydd am fwy na dwy flynedd, mae’n annhebyg y bydd gennych hawl i dâl diswyddo. Mae mwy o wybodaeth am hyn yn y neges ‘Beth ddylwn i gael fel taliad diswyddo?’ Dylech wneud yn siŵr fod eich cyflogydd wedi gwneud y dilynol os buoch mewn swydd am o leiaf flwyddyn ac yn cael eich diswyddo:
- Dylai eich cyflogydd ddangos na fydd eich swydd yn bodoli mwyach ar ôl i chi gael eich diswyddo;
- Dylai’ch cyflogydd siarad gyda chi am ddewisiadau eraill i ddiswyddo, cyn i chi gael eich diswyddo a dylai geisio dod o hyd i swydd arall i chi. Nid yw’n rhaid i’r swydd hon fod yn debyg mewn unrhyw ffordd i’ch swydd flaenorol nac yn seiliedig yn yr un lleoliad, ond mae’n rhaid iddi fod yn un y medrwch ei gwneud; a
- Dylai eich cyflogydd ddangos fod y rhesymau dros eich dewis i’ch diswyddo yn deg a gwrthrychol.
Os ydych wedi cael eich cyflogi am y cyfnod cymwys ac y credwch fod eich cyflogydd wedi methu gwneud unrhyw un o’r pethau hyn, medrwch fedru gwneud hawliad am Ddiswyddo Annheg mewn Tribiwnlys Cyflogaeth. Medrech gael taliad mwy nag a fyddech fel arall pe medrwch ddangos i chi gael eich diswyddo yn annheg.
I wneud hyn dylech gysylltu â’r Swyddfa Tribiwnlys Cyflogaeth agosaf a fydd yn anfon ffurflen hawlio atoch. Rhaid i chi wneud eich hawliad o fewn 3 mis yn dechrau gyda’r diwrnod y cawsoch eich diswyddo.
Os ydych angen help i ddelio gyda diswyddo annheg neu unrhyw agwedd arall o gyflogaeth, rydyn ni’n argymell eich bod yn siarad gydag un o’n cynghorwyr cyflogaeth i gael cyngor arbenigol.
Browse topics
- Benefits
- Communications and media
- Consumer affairs
- Education and training
- Employment
- Environment and countryside
- Family and personal
- Government, law and rights
- Health and social care
- Housing and homelessness
- Immigration and nationality
- Money and tax
- Police and crime
- Transport, travel and leisure
Do you help people get advice?
If you talk to people who may need legal advice, see how Community Legal Advice can help you.










