23 Mae fy nghyflogydd yn torri telerau fy nghontract. Beth fedraf i wneud?
Os yw’ch cyflogydd yn torri telerau eich contract, dylech yn gyntaf ddweud hynny wrthyn nhw, un ai yn llafar neu mewn ysgrifen. Ceisiwch fod yn bwyllog oherwydd gall eich cyflogydd fod wedi gwneud camgymeriad a’u bod yn hapus i gywiro pethau’n gyflym.
Os nad yw’ch cyflogydd yn gwneud dim dylech ysgrifennu atynt, gan wneud cwyn ffurfiol, gan ddweud y byddwch yn gwneud hawliad yn eu herbyn mewn Tribiwnlys Cyflogaeth os na chaiff y mater ei ddatrys yn foddhaol.
Mae gennych ddewis os yw’ch cyflogydd yn dal heb wneud dim. Medrwch wneud hawliad yn eu herbyn am dorri contract mewn Tribiwnlys Cyflogaeth.
Os credwch fod torri’r contract yn weithred o wahaniaethu yn eich erbyn, yna medrwch wneud hawliad am wahaniaethu mewn Tribiwnlys Cyflogaeth.
Fel arall, os buoch chi’n gweithio i’ch cyflogydd am fwy na blwyddyn, ac os na fedrwch barhau i weithio yn y swydd oherwydd y toriad contract honedig gan eich cyflogydd, gall fod yn bosibl i chi ymddiswyddo a hawlio ‘diswyddiad deongliadol annheg’. Mae hyn yn golygu y gall Tribiwnlys Cyflogaeth drin eich ymddiswyddiad fel Diswyddo Annheg. Fodd bynnag, mae’n galed iawn profi i ymddygiad eich cyflogydd achosi ‘Diswyddiad Deongliadol’ ac ychydig iawn sydd o achosion llwyddiannus. Rhaid i’r torri contact gan y cyflogydd fod yn ddifrifol.
Yn yr holl achosion hyn, dylech gysylltu â’ch Swyddfa Tribiwnlys Cyflogaeth agosaf am ffurflen hawlio. Bydd yn rhaid i chi wneud yr hawliad i’r Tribiwnlys Cyflogaeth o fewn 3 mis yn dechrau gyda dyddiad terfyniad eich cyflogaeth neu’ch diwrnod gwaith olaf.
Os ydych angen help i ddelio gyda thorri cytundeb gan eich cyflogydd, neu unrhyw agwedd arall o gyflogaeth, rydyn ni’n argymhell eich bod yn siarad gydag un o’n cynghorwyr cyflogaeth i gael cyngor arbenigol.
Browse topics
- Benefits
- Communications and media
- Consumer affairs
- Education and training
- Employment
- Environment and countryside
- Family and personal
- Government, law and rights
- Health and social care
- Housing and homelessness
- Immigration and nationality
- Money and tax
- Police and crime
- Transport, travel and leisure
Do you help people get advice?
If you talk to people who may need legal advice, see how Community Legal Advice can help you.










