22 Mae fy nghyflogydd yn tynnu arian o fy nghyflog – beth yw fy hawliau?
I weithio allan pa daliad diswyddo y mae gennych hawl iddo, dylech edrych ar eich contract cyflogaeth. Os nad yw'ch contract yn sôn am daliad neu os nad oes gennych gontract, medrwch ddal i fod â hawl cyfreithiol i dâl diswyddo.
Rhaid i chi fod wedi gweithio am o leiaf ddwy flynedd gyda'ch cyflogydd tra'ch bod dros 18 oed i fod yn gymwys am dâl diswyddo. Fodd bynnag, nid yw'r rheol hon yn weithredol os credwch y bu gwahaniaethu yn eich erbyn yn y ffordd y cawsoch eich dewis ar gyfer diswyddo (er enghraifft ar sail hil, rhyw neu unrhyw anabledd a all fod gennych).
Mae swm y taliad diswyddo yn dibynnu pa mor hir y cawsoch eich cyflogi, eich oedran a'ch tâl wythnosol, cyn treth.
- Ar gyfer pob blwyddyn o gyflogaeth barhaol rhwng 18 a 21 oed byddwch yn cael hanner wythnos o dâl;
- Ar gyfer pob blwyddyn o gyflogaeth barhaol rhwng 22 a 40 oed byddwch yn cael un wythnos o dâl;
- Am bob blwyddyn o gyflogaeth barhaol rhwng 41 a 65 oed byddwch yn derbyn wythnos a hanner o dâl.
Fodd bynnag, mae terfyn uchaf ar y swm o dâl wythnosol a dderbyniwch ac am bob mis dros 64 oed ydych byddwch yn colli 1/12 o'ch hawliad.
Os ydych angen help i ddelio gyda thâl diswyddo neu unrhyw agwedd arall o gyflogaeth, argymhellwn eich bod yn siarad gydag un o'n cynghorwyr cyflogaeth i gael cyngor arbenigol.
Browse topics
- Benefits
- Communications and media
- Consumer affairs
- Education and training
- Employment
- Environment and countryside
- Family and personal
- Government, law and rights
- Health and social care
- Housing and homelessness
- Immigration and nationality
- Money and tax
- Police and crime
- Transport, travel and leisure
Do you help people get advice?
If you talk to people who may need legal advice, see how Community Legal Advice can help you.










