Skip navigation (access key S)
  • English language
  • Welsh language
  • Urdu language
  • Chinese language
  • Bengali language
  • Punjabi language
  • Gujarati language
  • Hindi language
  • Arabic language
  • Turkish language
Cyngor cyfreithiol cyfrinachol am ddim: 0845 345 4 345

Am gyngor cyfreithiol arbenigol am ddim

0845 345 4 345

Ffoniwch Cyngor Cyfreithiol Cymunedol (Community Legal Advice):

  • Cyngor diduedd, cyfrinachol am ddim y telir amdano gan gymorth cyfreithiol
  • Gwasanaeth gwaith achos llawn
  • Llun - Gwener 9am - 6.30pm
  • Galwadau o 4c/funud - galwad yn ôl ar gael

Canfod ymgynghorydd

 

20 Mae fy mhlentyn yn cael ei fwlio a dwi ddim yn teimlo fod yr ysgol wedi gwneud digon i’w atal. Beth fedraf fi wneud?

Hyd yn oed os ydych wedi cwrdd gydag athro a phennaeth ysgol eich plentyn am y bwlio yn barod, mae’n dal i fod yn werth siarad gyda’r ysgol unwaith eto cyn cwyno’n ffurfiol. Fel arfer y ffordd orau o ddatrys bwlio yw drwy i bawb gydweithio. Gall fod yn help i ysgrifennu at yr ysgol yn disgrifio’r bwlio ac yn gofyn am gyfarfod.

Gwnewch yn siwr fod gennych gopi o bolisi’r ysgol ac ymddygiad a bwlio cyn i chi drefnu cyfarfod arall. Os ydi’r bwlio yn gysylltiedig gyda rhyw, hil neu anabledd eich plentyn, gofynnwch am y polisi ar gyfle cyfartal. Mae gennych hawl hefyd i gael copi o gofnod ysgol eich plentyn a all fod yn cynnwys manylion o ddigwyddiadau bwlio. Gall yr ysgol godi tâl rhesymol am lungopïau.

Siaradwch gyda’ch plentyn cyn siarad gyda’r ysgol. Gwnewch yn siwr eich bod mor glir ag sydd modd am fanylion yr hyn sydd wedi digwydd. Gwnewch nodyn o bob digwyddiad bwlio a’r effaith ar eich plentyn.

Gwnewch bwyntiau defnyddiol am bolisïau’r ysgol cyn y cyfarfod. Ysgrifennwch unrhyw gwestiynau a rhestru popeth rydych eisiau ei drafod. Yn y cyfarfod ticiwch bob pwynt fel y caiff ei drafod a gwneud nodiadau o’r hyn gaiff ei ddweud. Ewch yn ôl dros bob pwynt ar ddiwedd y cyfarfod fel bod pawb yn gadael yn deall yr un pethau. Trefnwch ddyddiad i adolygu sut mae camau gweithredu’r ysgol yn gweithio.

Os nad yw’ch cyfarfod gyda’r ysgol yn dod â’r bwlio i ben, gall fod angen i chi wneud cwyn ffurfiol. Dylech ofyn am gopi o weithdrefn gwynion yr ysgol. Fel arfer bydd hyn yn golygu y byddwch yn gwneud cwyn i’r corff llywodraethu os nad yw staff uwch yr ysgol wedi datrys y broblem. Medrai’ch llythyr atgoffa llywodraethwyr am y ddyletswydd gyfreithiol sydd ganddynt o ofal tuag at eich plentyn fel ffordd o ddangos pa mor ddifrifol yr ydych yn cymryd y broblem. Medrech hefyd gwyno at gyfarwyddwr addysg eich awdurdod lleol neu’ch Aelod Seneddol neu Aelod Cynulliad.

Mae trafodion cyfreithiol llwyddiannus yn erbyn ysgolion am fwlio yn brin iawn er y caiff rhai achosion eu setlo allan o’r llys. Bydd angen i chi ymgynghori â chyfreithiwr os teimlwch i ysgol eich plentyn fod yn esgeulus a’ch bod eisiau gweithredu yn y llys. Nid yw cymorth cyfreithiol ar gael ar gyfer yr achosion hyn fel arfer. Medrwch siarad gydag un o’n cynghorwyr addysg i gael cyngor arbenigol, ond efallai na fedrwn roi llawer o help uniongyrchol.




Nol





*