Skip navigation (access key S)
  • English language
  • Welsh language
  • Urdu language
  • Chinese language
  • Bengali language
  • Punjabi language
  • Gujarati language
  • Hindi language
  • Arabic language
  • Turkish language
Cyngor cyfreithiol cyfrinachol am ddim: 0845 345 4 345

Am gyngor cyfreithiol arbenigol am ddim

0845 345 4 345

Ffoniwch Cyngor Cyfreithiol Cymunedol (Community Legal Advice):

  • Cyngor diduedd, cyfrinachol am ddim y telir amdano gan gymorth cyfreithiol
  • Gwasanaeth gwaith achos llawn
  • Llun - Gwener 9am - 6.30pm
  • Galwadau o 4c/funud - galwad yn ôl ar gael

Canfod ymgynghorydd

 

18 Rwy’n methu cael fy mhlentyn i’r ysgol rwyf eisiau. Beth fedraf i wneud?

Mae gennych hawl i ddewis i ba ysgol yn eich ardal y dymunwch i’ch plentyn fynd iddi. Fodd bynnag, os yw’r ysgol honno yn llawn neu os nad yw’ch plentyn yn ateb ei gofynion mynediad, mae’n bosibl y cewch eich gwrthod. Medrwch hefyd gael broblemau os yw’ch plentyn wedi cael ei wahardd o’u hysgol flaenorol ddwy neu fwy o weithiau.

Os oes mwy o blant yn gwneud cais am le nag sydd o leoedd ar gael yn eich dewis ysgol, yna bydd yr ysgol yn defnyddio set o feini prawf gorlenwi i ddewis rhwng yr ymgeiswyr. Efallai y bydd y meini prawf hyn ym mhrosbectws yr ysgol. Os gwrthodir lle i’ch plentyn, fel arfer medrwch apelio i banel annibynnol. Dylai’r ysgol neu’r Awdurdod Addysg Lleol anfon manylion atoch o sut y medrwch apelio, fydd yn cynnwys rhesymau pam na chafodd eich plentyn le yn eich dewis ysgol a pha mor hir sydd gennych i benderfynu p’un ai i apelio neu beidio.

Os ydych yn dewis apelio dylech ganolbwyntio ar y rhesymau pam fod angen i’ch plentyn fynd i’r ysgol y gwnaethoch ei dewis, yn hytrach na gwrthwynebiadau i’r ysgol arall. Medrwch fel arfer anfon gwybodaeth bellach yn ddiweddarach

Os ydych angen help i gael eich plentyn i’ch dewis ysgol, neu ar unrhyw agwedd arall o addysg, rydym yn argymell eich bod chi’n siarad gydag un o’n cynghorwyr addysg i gael cyngor arbenigol.


Nol





*