Skip navigation (access key S)
  • English language
  • Welsh language
  • Urdu language
  • Chinese language
  • Bengali language
  • Punjabi language
  • Gujarati language
  • Hindi language
  • Arabic language
  • Turkish language
Cyngor cyfreithiol cyfrinachol am ddim: 0845 345 4 345

Am gyngor cyfreithiol arbenigol am ddim

0845 345 4 345

Ffoniwch Cyngor Cyfreithiol Cymunedol (Community Legal Advice):

  • Cyngor diduedd, cyfrinachol am ddim y telir amdano gan gymorth cyfreithiol
  • Gwasanaeth gwaith achos llawn
  • Llun - Gwener 9am - 6.30pm
  • Galwadau o 4c/funud - galwad yn ôl ar gael

Canfod ymgynghorydd

 

15 Mae fy mhlentyn yn cael ei wahardd o’r ysgol. Beth yw ein hawliau?

Os yw’ch plentyn yn cael ei wahardd o’r ysgol gall hynny fod am nifer benodol o ddyddiau neu gall fod yn barhaol.

Rhaid i’r ysgol ddweud mewn ysgrifen beth yw eu rhesymau dros wahardd y plentyn. Os nad yw’r ysgol wedi gwneud hynny, cysylltwch â hwy ar unwaith a gofyn am y rhesymau. Mae’n bwysig cadw copi o’r holl ohebiaeth gyda’r ysgol.

Os ydych yn anghytuno gyda’r rhesymau dros wahardd yna mae gennych hawl i apelio yn ei erbyn. I wneud hyn dylech ysgrifennu at Lywodraethwyr yr ysgol cyn gynted ag sydd modd yn dweud pam eich bod eisiau apelio yn erbyn y gwaharddiad. Efallai na fydd gennych hawl i apelio yn erbyn rhai gwaharddiadau tymor byr.

Fe fedrwch fod am apelio yn erbyn y gwaharddiad os ydych chi’n credu:

  • Nad yw’r plentyn wedi gwneud yr hyn y mae’n cael ei gyhuddo ohono;
  • Nid oes unrhyw dystiolaeth go iawn fod eich plentyn wedi cyflawni’r drosedd;
  • Nid yw’r drosedd y cyhuddwyd eich plentyn ohoni yn ddigon difrifol i gyfiawnhau’r gwaharddiad;
  • Cafodd ei plentyn eich brofocio; neu
  • Cafodd eich plentyn ei ddewis yn annheg ar gyfer ei gosbi.

Gall fod mwy nag un o’r rhesymau hyn yn weithredol ar gyfer achos eich plentyn.

Os nad yw’ch apêl i lywodraethwyr yr ysgol yn llwyddiannus, gallwch fod â hawl pellach o apelio.

Os ydych angen help i ddelio gyda gwaharddiad eich plentyn neu unrhyw agwedd arall o addysg, rydyn ni’n argymell eich bod yn siarad gydag un o’n cynghorwyr addysg i gael cyngor arbenigol.




Nol





*