14 Pa fudd-daliadau sydd ar gael i bobl gydag anableddau?
Y prif fudd-daliadau anabledd yw Lwfans Byw Anabledd i bobl dan 65 mlwydd oed a Lwfans Gweini ar gyfer pobl dros 65 mlwydd oed.
Os ydych dan 65 mlwydd oed medrwch hawlio Lwfans Byw Anabledd ar gyfer help gyda:
- Symudedd, os ydych chi'n cael anawsterau difrifol yn cerdded y tu allan; a
- Gofal personol, os ydych angen help gan berson arall mewn cysylltiad â swyddogaethau'r corff.
Mae swyddogaethau'r corff yn bethau fel ymolchi, bwyta, coginio a mynd allan o'r gwely. Dydi pethau fel siopa a gwaith cartref ddim yn cyfrif fel swyddogaethau'r corff.
Mae Lwfans Gweini ar gyfer pobl dros 65 oed ac mae'r un fath â Lwfans Byw Anabledd heblaw na fedrwch chi hawlio am help ar gyfer symudedd neu goginio.
Os yw’ch cais am Lwfans Byw Anabl neu Lwfans Gweini yn llwyddiannus, yna gallwch fod yn gymwys i hawlio mwy ar eich budd-daliadau presennol, neu hyd yn oed hawlio budd-daliadau newydd. Mae Cymhorthdal Incwm, Credyd Treth, Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor yn rhoi ystyriaeth i salwch ac anabledd wrth gyfrif faint y mae gennych hawl iddo. Efallai y medrwch hefyd hawlio Budd-dal Anafiadau Diwydiannol os deuwch yn wael neu’n anabl drwy ddamwain neu afiechyd yn gysylltiedig â gwaith. Os deuwch yn wael neu’n anabl drwy wasanaeth yn y lluoedd arfog, efallai y medrwch gael help o’r cynllun pensiynau rhyfel neu gynllun iawndal y lluoedd arfog.
Medrwch gael Lwfans Byw Anabl, Lwfans Gweini, Budd-dal Tai, Budd-dal Treth Cyngor, Budd-dal Plant, Credyd Treth Plant, Budd-dal Anafiadau Diwydiannol a phensiwn rhyfel neu iawndal lluoedd arfog p’un ai ydych yn gweithio ai peidio, cyhyd â’ch bod yn cyflawni’r gofynion.
Os na fedrwch weithio, efallai y medrwch gael Budd-dal Anallu. Fel arfer bydd yn rhaid i chi fod wedi talu cyfraniadau yswiriant cenedlaethol i gael hyn, os nad ydych wedi methu gweithio ers pan oeddech yn ifanc. Os na fedrwch gael budd-dal anallu, efallai y medrwch gael cymhorthdal incwm fel rhywun na all weithio, yn dibynnu ar eich incwm.
Os hoffech help i ddelio gyda'ch budd-daliadau yn gysylltiedig ag anabledd neu unrhyw agwedd arall o Fudd-daliadau Lles, rydyn ni'n argymell eich bod yn siarad gydag un o cynghorwyr Budd-daliadau Lles i dderbyn cyngor arbenigol.
Browse topics
- Benefits
- Communications and media
- Consumer affairs
- Education and training
- Employment
- Environment and countryside
- Family and personal
- Government, law and rights
- Health and social care
- Housing and homelessness
- Immigration and nationality
- Money and tax
- Police and crime
- Transport, travel and leisure
Do you help people get advice?
If you talk to people who may need legal advice, see how Community Legal Advice can help you.










