Skip navigation (access key S)
  • English language
  • Welsh language
  • Urdu language
  • Chinese language
  • Bengali language
  • Punjabi language
  • Gujarati language
  • Hindi language
  • Arabic language
  • Turkish language
Cyngor cyfreithiol cyfrinachol am ddim: 0845 345 4 345

Am gyngor cyfreithiol arbenigol am ddim

0845 345 4 345

Ffoniwch Cyngor Cyfreithiol Cymunedol (Community Legal Advice):

  • Cyngor diduedd, cyfrinachol am ddim y telir amdano gan gymorth cyfreithiol
  • Gwasanaeth gwaith achos llawn
  • Llun - Gwener 9am - 6.30pm
  • Galwadau o 4c/funud - galwad yn ôl ar gael

Canfod ymgynghorydd

 

13 Rwy’n cael problemau gyda budd-dal tai.

Mae Budd-dal Tai yn fudd-dal prawf modd a gaiff ei reoli gan eich cyngor lleol. Er mai'ch Cyngor sy'n rhedeg y system, maen nhw'n gorfod dilyn rheolau a gaiff eu gosod gan y Llywodraeth.

Mae pobl yn cael llawer o broblemau gwahanol gyda Budd-dal Tai. Mae'r problemau mwyaf cyffredin yn cynnwys:

  • Oedi wrth brosesu hawliadau;
  • Gordaliadau;
  • Ôl-ddyddio hawliau; a
  • Eich budd-dal heb fod yn gymaint â'ch rhent.

Os ydych yn credu fod penderfyniad am eich Budd-dal Tai yn anghywir, medrwch ei herio. Er enghraifft, efallai y credwch fod gennych hawl pan gawsoch eich gwrthod, neu eich bod wedi derbyn y swm anghywir. Mae gennych hawl cyfreithiol i ofyn i’r cyngor lleol  ailystyried eu penderfyniad, neu medrwch apelio i dribiwnlys diwydiannol. Dylech weithredu o fewn un mis. Os ydych yn anhapus gyda phenderfyniad swyddog rhent (er enghraifft, y mae’r rhent y gall eich Budd-dal Tai ei dalu wedi ei gyfyngu), medrwch ofyn i’r awdurdod lleol i edrych ar y penderfyniad eto, ond ni fedwch apelio. Dylech weithredu o fewn chwe wythnos.

Os ydych yn dal i fod yn anhapus gyda’r penderfyniad ar ôl iddo gael ei ailystyried, yna bydd y llythyr yn dweud wrthych os oes gennych hawl cyfreithiol i apelio yn erbyn y canlyniad. Dylech wneud hyn o fewn un mis. Gall y cyngor roi ffurflen i chi gyflwyno eich apêl, neu medrant dderbyn llythyr os yw’n cynnwys yr holl wybodaeth y maent ei angen.

Gall sawl wythnos fynd heibio cyn i'r Tribiwnlys Diwydiannol wneud penderfyniad.

Os hoffech chi gael help yn delio gyda'r Budd-dal Tai neu unrhyw agwedd arall o Fudd-daliadau Lles, rydyn ni'n argymell eich bod yn siarad gydag un o'n cynghorwyr Budd-dal Lles i dderbyn cyngor arbenigol.




Nol





*