Skip navigation (access key S)
  • English language
  • Welsh language
  • Urdu language
  • Chinese language
  • Bengali language
  • Punjabi language
  • Gujarati language
  • Hindi language
  • Arabic language
  • Turkish language
Cyngor cyfreithiol cyfrinachol am ddim: 0845 345 4 345

Am gyngor cyfreithiol arbenigol am ddim

0845 345 4 345

Ffoniwch Cyngor Cyfreithiol Cymunedol (Community Legal Advice):

  • Cyngor diduedd, cyfrinachol am ddim y telir amdano gan gymorth cyfreithiol
  • Gwasanaeth gwaith achos llawn
  • Llun - Gwener 9am - 6.30pm
  • Galwadau o 4c/funud - galwad yn ôl ar gael

Canfod ymgynghorydd

 

12 Rwy’n dychwelyd i’r gwaith – sut mae gadael y system budd-daliadau?

Os ydych chi'n dychwelyd i'r gwaith fyddwch chi ddim o reidrwydd yn colli hawl i'ch holl fudd-daliadau.

Medrir hawlio Lwfans Byw Anabledd, Lwfans Gweini, Budd-dal Anafiadau Diwydiannol a Lwfans Enillion Gostyngedig i gyd yn llawn tra'ch bod yn gweithio.

Medrwch hefyd hawlio rhan neu'r cyfan o Fudd-dal Anallu, Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai, Budd-dal Treth Cyngor, Lwfans Ceiswyr Swydd, Lwfans Gofalydd a help gyda chostau presgripsiwn y Gwasanaeth Iechyd. Defnyddir prawf modd sy'n edrych ar eich incwm a'r nifer o oriau y byddwch yn gweithio er mwyn canfod os ydych yn gymwys.

Mae hefyd sawl cynllun ar gael i roi help ariannol i chi tra'n symud oddi ar fudd-daliadau tymor hir ac yn ôl i'r gwaith. Mae'r rhain yn cynnwys rhaglenni a lwfansau hyfforddiant, y Fargen Newydd a llawer mwy. Medrwch gael mwy o wybodaeth am hyn drwy eich Canolfan Gwaith leol.

Dylech ddweud wrth yr asiantaeth sy’n talu eich budd-dal eich bod yn dychwelyd i weithio, hyd yn oed os na chredwch y bydd yn effeithio ar eich budd-dal. Os na wnewch hyn medrech gael eich gordalu, neu hyd yn oed eich ymchwiio am dwyll. Dylech hefyd yn ddweud yn union ar ba ddyddiad y bwriadwch ddechrau gweithio, y nifer o oriau y byddwch yn eu gweithio a’ch cyflog. Bydd yr asiantaeth yn ysgrifennu atoch os nad oes gennych hawl i fudd-dal mwyach. Yna anfonir unrhyw arian dyledus i chi neu dywedir wrthych os bydd angen i chi ad-dalu unrhwy fudd-dal, gyda llythyr yn nodi fod eich hawliad wedi cau yn awr.

Os hoffech chi gael help gyda gadael y system budd-daliadau neu unrhyw agwedd arall o Fudd-daliadau Lles, rydyn ni'n argymell eich bod yn siarad gydag un o'n cynghorwyr Budd-daliadau Lles i dderbyn cyngor arbenigol.




Nol





*