Skip navigation (access key S)
  • English language
  • Welsh language
  • Urdu language
  • Chinese language
  • Bengali language
  • Punjabi language
  • Gujarati language
  • Hindi language
  • Arabic language
  • Turkish language
Cyngor cyfreithiol cyfrinachol am ddim: 0845 345 4 345

Am gyngor cyfreithiol arbenigol am ddim

0845 345 4 345

Ffoniwch Cyngor Cyfreithiol Cymunedol (Community Legal Advice):

  • Cyngor diduedd, cyfrinachol am ddim y telir amdano gan gymorth cyfreithiol
  • Gwasanaeth gwaith achos llawn
  • Llun - Gwener 9am - 6.30pm
  • Galwadau o 4c/funud - galwad yn ôl ar gael

Canfod ymgynghorydd

 

10 Pwy sydd â hawl i Gredyd Pensiwn?

Mae'r Credyd Pensiwn Gwladol yn fudd-dal prawf modd a gaiff ei reoli gan y Gwasanaeth Pensiynau.

Mae dau ran i'r Credyd Pensiwn: Credyd Gwarant a Chredyd Cynilion.

Mae’r Credyd Gwarant ar gyfer pobl dros 60 oed. Mae’n gweithio drwy ychwanegu at eich incwm i lefel sylfaenol, yn seiliedig ar eich amgylchiadau. Caiff cyfran o’ch incwm ei gyfrif fel bod yn dod o unrhyw gynilon dros £6,000 sydd gennych, neu dros £10,000 os ydych yn byw mewn cartref gofal.

Mae'r Credyd Cynilon ar gyfer pobl 65 oed a throsodd sydd wedi gwneud eu trefniadau pensiwn cynnil eu hunain ar wahân i'r pensiwn gwladol. Er enghraifft, medrwch fod â phensiwn galwedigaethol neu bensiwn preifat. Mae Credyd Cynilion yn ychwanegu at yr ail bensiwn bach yma. Telir Credyd Cynilion i chi ar ben unrhyw Gredyd Gwarant. Medrwch hefyd hawlio Credyd Cynilion os yw'ch incwm yn rhy uchel i dderbyn Credyd Gwarant.

Ffoniwch linell gais Credyd Pensiwn ar 0800 99 1234 os hoffech fwy o wybodaeth ar hawlio Credyd Pensiwn. Cofiwch y medrwch hefyd fod â hawl i fudd-daliadau eraill yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Os hoffech chi gael mwy o help ar ddelio gyda Chredyd Pensiwn neu unrhyw agwedd arall o Fudd-daliadau Lles, rydyn ni'n argymell eich bod yn siarad gydag un o'n cynghorwyr Budd-dal Lles i dderbyn cyngor arbenigol.




Nol





*