9 Mae fy mudd-dal wedi ei ordalu. Beth ddylwn i wneud?
Os cawsoch ormod o fudd-dal, gall fod y bydd yn rhaid i chi dalu’r balans yn ôl. Mae gwahanol reolau ar p’un ai fydd yn rhaid i chi ad-dalu gor-daliad, yn dibynnu pa fudd-dal sydd wedi cael ei ordalu. Fel arfer ar gyfer budd-daliadau nawdd cymdeithasol dim ond os mai chi oedd ar fai y bydd yn rhaid i chi ad-dalu gordaliad; er enghraifft, oherwydd i chi fethu dweud rhyw ffaith bwysig wrth y swyddfa budd-daliadau, neu i chi ddweud rhywbeth anghywir wrthynt. Ar gyfer Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor, fel arfer bydd yn rhaid i chi ad-dalu pob gor-daliad, os nad mai bai’r cyngor neu’r swyddfa budd-daliadau oedd y cyfan, ac na fedrid disgwyl i chi sylweddoli eich bod yn cael eich gor-dalu. Ar gyfer credyd treth, mae gan Gyllid y Wlad hawl cyfreithiol i adennill pob gordaliad, er fod ganddynt ddisgresiwn i beidio gwneud hynny mewn achosion o galedi neu gamgymeriad swyddogol.
Medrwch ofyn i'r Asiantaeth Budd-daliadau i ailystyried y gordaliad os credwch fod gennych hawl i'r arian ychwanegol. Yn yr achos hwn bydd person gwahanol i'r un a wnaeth gyfrif y gordaliad i ddechrau yng ngofal yr adolygiad. Ar y cam yma, os yw'r Asiantaeth Budd-daliadau yn gofyn i chi am unrhyw wybodaeth bellach mae'n bwysig eich bod yn ei rhoi iddyn nhwo fewn un mis.
Ar ddiwedd yr adolygiad os yw'r Asiantaeth Budd-daliadau yn dal i hawlio i chi gael gordaliad mae gennych hawl gyfreithiol i apelio yn erbyn y penderfyniad mewn Tribiwnlys Annibynnol. Rhaid i chi wneud hyn o fewn un mis o ddyddiad y llythyr yn eich hysbysu am benderfyniad yr Asiantaeth Budd-daliadau. Medrwch ddefnyddio ffurflen apêl safonol GL24 i ddodi eich apêl. Mae'r ffurflen ar gael gan eich Asiantaeth Budd-daliadau neu Ganolfan Cynghori lleol.
Medrwch herio gor-daliad am ddau reswm. Gallwch feddwl fod gennych hawl i beth neu’r cyfan o’r budd-dal ychwanegol a gawsoch; neu gallwch feddwl fod y gor-daliad oherwydd camgymeriad swyddogol ac na all y swyddfa budd-daliadau ei adennill. Yn y ddau achos, medrwch ofyn i’r swyddfa budd-daliadau ailystyried y gor-daliad. Ar gyfer gor-daliad nawdd cymdeithasol a budd-dal Tai neu fudd-dal Treth Cyngor, medrwch apelio i dribiwnlys annibynnol. Ar gyfer gor-daliad credyd treth, dim ond os nad ydych yn cytuno gyda swm y gor-daliad y medrwch apelio. Nid oes apêll ar p’un ai yw’n rhaid i chi ad-dalu gordaliad credyd treth, ond medrwch ddal i ofyn i Gyllid y Wlad ailystyried, a medrech wneud cwyn os oedd y gordaliad oherwydd camgymeriad neu oedi gan Gyllid y Wlad.
Os hoffech chi help wrth ddelio gyda gordaliad budd-dal neu unrhyw agwedd arall o Fudd-daliadau Lles, rydyn ni'n argymell eich bod yn siarad gydag un o'n cynghorwyr Budd-daliadau Lles i dderbyn cyngor arbenigol.
Browse topics
- Benefits
- Communications and media
- Consumer affairs
- Education and training
- Employment
- Environment and countryside
- Family and personal
- Government, law and rights
- Health and social care
- Housing and homelessness
- Immigration and nationality
- Money and tax
- Police and crime
- Transport, travel and leisure
Do you help people get advice?
If you talk to people who may need legal advice, see how Community Legal Advice can help you.










