8 Rwyf wedi cael fy ngwrthod ar gyfer hawliad budd-dal. Beth ddylwn i wneud nesaf?
Os ydych chi wedi cael eich gwrthod ar gyfer hawliad budd-dal mae gennych hawl cyfreithiol i ofyn i'r Asiantaeth Budd-daliadau i ailystyried eu penderfyniad.
Os ydych chi'n gofyn i'r asiantaeth budd-daliadau i adolygu eich hawliad budd-dal bydd person gwahanol i'r un a fu'n edrych ar eich hawliad cyfreithiol yng ngofal yr adolygiad. Ar y cam yma, os ydi'rAsiantaeth Budd-daliadau yn gofyn i chi am unrhyw wybodaeth bellach, mae'n bwysig eich bod yn ei roi iddynt o fewn un mis.
Os ydych yn dal i fod yn anhapus gyda’r penderfyniad ar eich hawl am fudd-dal ar ôl iddo gael ei ystyried, medrwch apelio ar y pwynt hwn yn lle. Caiff apeliadau eu clywed gan dribiwnlys annibynnol sy’n hollol ar wahân i’r swyddfa budd-daliadau. Rhaid i chi apelio o fewn un mis i ddyddiad y llythyr yn eich hysbysu am y penderfyniad neu ganlyniad yr ailystyriaeth.
Gall fod gohiriad o sawl wythnos cyn i’r Tribiwnlys Annibynnol wneud penderfyniad. Gofynnir i chi os ydych eisiau gwrandawiad y medrwch fynd iddo, neu wrandawiad sy’n seiliedig ar dystiolaeth ysgrifenedig yn unig. Os nad ydych yn ymateb i’r cwestiwn hwn o fewn y terfyn amser, pedwar diwrnod ar ddeg fel arfer, efallai na chaiff eich apêl ei glywed o gwbl. Mae’n syniad da gofyn am wrandawiad y medrwch ei fynychu, ac os oes modd ganfod rhywun i’ch cynrycholi hefyd. Hyd yn oed os na ofynnwch am wrandawiad y medrwch fynd iddo, gall y swyddfa budd-daliadau ofyn am un i chi, neu gall y tribiwnlys benderfynu y dylai fod un. Mae’r rheolau ar gyfer credyd treth yn wahanol. Medrwch gael gwybodaeth am gredyd treth o Linell Gymorth Credyd Treth ar 0845 300 3900.
Os oes hawliad am fudd-dal wedi ei wrthod i chi ac os hoffech chi gael help wrth ddelio gydag ef neu unrhyw agwedd arall o Fudd-daliadau Tai, rydyn ni yn argymell eich bod yn siarad gydag un o'n cynghorwyr Budd-daliadau Lles i dderbyn cyngor arbenigol.
Browse topics
- Benefits
- Communications and media
- Consumer affairs
- Education and training
- Employment
- Environment and countryside
- Family and personal
- Government, law and rights
- Health and social care
- Housing and homelessness
- Immigration and nationality
- Money and tax
- Police and crime
- Transport, travel and leisure
Do you help people get advice?
If you talk to people who may need legal advice, see how Community Legal Advice can help you.










