Skip navigation (access key S)
  • English language
  • Welsh language
  • Urdu language
  • Chinese language
  • Bengali language
  • Punjabi language
  • Gujarati language
  • Hindi language
  • Arabic language
  • Turkish language
Cyngor cyfreithiol cyfrinachol am ddim: 0845 345 4 345

Am gyngor cyfreithiol arbenigol am ddim

0845 345 4 345

Ffoniwch Cyngor Cyfreithiol Cymunedol (Community Legal Advice):

  • Cyngor diduedd, cyfrinachol am ddim y telir amdano gan gymorth cyfreithiol
  • Gwasanaeth gwaith achos llawn
  • Llun - Gwener 9am - 6.30pm
  • Galwadau o 4c/funud - galwad yn ôl ar gael

Canfod ymgynghorydd

 

7 Problemau’n cael credyd

Nid oes y fath beth mewn gwirionedd â “rhestr ddu” o bobl y mae benthycwyr yn awtomatig yn gwrthod benthyca iddynt.

Mae’r rhan fwyaf o ddefnyddwyr yn defnyddio cyfuniad o wybodaeth a gedwir gan yr asiantaethau cyfeirio credyd a’u system sgorio credyd eu hunain i benderfynu os dylid cynnig credyd.

Mae asiantaethau cyfeirio credyd yn cadw cofnod o’r rhan fwyaf o gytundebau credyd y gwnaed cais amdanynt neu a gymerwyd. Medrwch gael copi o’ch ffeil cyfeirio credyd eich hun drwy wneud cais i un o’r tair prif asiantaeth, sef Experian, Equifax a Call Credit. Bydd angen i chi roi eich enw, cyfeiriad, dyddiad geni a phob cyfeiriad blaenorol am y chwe blynedd diwethaf. Mae’r asiantaethau cyfeirio credyd yn codi ffi bychan am y gwasanaeth hwn.

Os oes gennych ddiffyg daliad credyd neu Ddyfarniad Llys Sirol wedi’i gofrestru ar eich ffeil credyd, bydd yn aros yno fel arfer am chwe blynedd, ac ar ôl hynny dylid ei ddileu o’ch ffeil credyd yn awtomatig.

Mae sgorio credyd yn gweithio ar sail dyrannu pwyntiau i rai meini prawf. Er enghraifft medrwch gael rhai pwyntiau am fod wedi cofrestru ar y gofrestr etholiadol. Po fwynaf o bwyntiau sydd gennych, y mwyaf tebygol yw hi y bydd darparydd credyd yn benthyca i chi. Mae gwahanol feini prawf sgorio gan wahanol gredydwyr, felly medrwch gael eich gwrthod gan rai ond cael eich derbyn gan eraill.

Os ydych angen help i ddelio gyda gwrthodiad credyd neu unrhyw agwedd arall o ddyled, rydyn yn argymell eich bod yn siarad gydag un o’n cynghorwyr dyled i gael cyngor arbenigol.


Nol





*