6 Beth yw fy hawliau mewn cytundeb Hurbrynu neu Werthiant Amodol?
Mae Cytundeb Hurbrynu neu Werthiant Amodol yn golygu y llogir nwyddau i chi am gyfnod cytunedig pan fyddwch yn talu rhandaliadau. Nid chi yw perchennog cyfreithiol y nwyddau nes y byddwch wedi talu’r rhandaliad olaf. Yn ystod y Cytundeb Hur Bwrcas, y llogwr piau’r nwyddau felly rhaid i chi beidio gwerthu’r nwyddau heb gael eu caniaT d.
Y mae gennych hawl i ddod â’r cytundeb i ben yn gynnar. Medrwch wneud hyn drwy ysgrifennu at y cwmni cyllid gan nodi’n glir eich bod eisiau dod â’r cytundeb i ben. Anfonwch eich llythyr drwy ddosbarthiad cofrestredig. Os dewch â’r cytundeb i ben yn gynnar, rhaid dychwelyd y nwyddau a byddwch fel arfer wedyn yn gorfod talu hanner y swm sy’n ddyledus dan y cytundeb, llai’r taliadau a wnaethoch eisoes.
Ni ddylai’r cwmni cyllid fynnu eich bod yn talu cyfandaliad fel amod o ddod â’r cytundeb i ben yn gynnar.
Os nad ydych yn gwneud y taliadau fel y dylech, dim ond os:
- Eich bod wedi rhoi eich caniatâd y gall y llogwr ailfeddiannu’r nwyddau;
- Bod y llogwr wedi cael Gorchymyn Llys; neu
- Eich bod wedi talu llai na thraean o’r cyfanswm pris prynu ac y cedwir y nwyddau ar dir cyhoeddus.
Os ydych angen help i ddelio gyda Chytundeb Hur Bwrcas neu unrhyw agwedd arall o ddyled, rydym yn argymell eich bod yn siarad gydag un o’n cynghorwyr dyled i gael cyngor arbenigol.
Browse topics
- Benefits
- Communications and media
- Consumer affairs
- Education and training
- Employment
- Environment and countryside
- Family and personal
- Government, law and rights
- Health and social care
- Housing and homelessness
- Immigration and nationality
- Money and tax
- Police and crime
- Transport, travel and leisure
Do you help people get advice?
If you talk to people who may need legal advice, see how Community Legal Advice can help you.










