Skip navigation (access key S)
  • English language
  • Welsh language
  • Urdu language
  • Chinese language
  • Bengali language
  • Punjabi language
  • Gujarati language
  • Hindi language
  • Arabic language
  • Turkish language
Cyngor cyfreithiol cyfrinachol am ddim: 0845 345 4 345

Am gyngor cyfreithiol arbenigol am ddim

0845 345 4 345

Ffoniwch Cyngor Cyfreithiol Cymunedol (Community Legal Advice):

  • Cyngor diduedd, cyfrinachol am ddim y telir amdano gan gymorth cyfreithiol
  • Gwasanaeth gwaith achos llawn
  • Llun - Gwener 9am - 6.30pm
  • Galwadau o 4c/funud - galwad yn ôl ar gael

Canfod ymgynghorydd

 

5 Sut dylwn i ddelio gyda fy nyledion Treth Cyngor?

Dylid talu dyledion treth cyngor yn brydlon. Os na ddeuwch i drefniant i dalu, medrai’ch cyngor gymryd camau gorfodi yn eich erbyn. Medrai hyn gynnwys, er enghraifft, tynnu swm o’ch cyflog neu rai budd-daliadau; anfon beilïaid; gwneud cais am wystl cyfreithiol ar unrhyw eiddo sydd gennych; neu’ch gwneud yn fethdalwr. Os yw popeth arall yn methu, gall y cyngor ofyn i’r Llys Ynadon ystyried eich anfon i’r carchar am beidio talu.

Medrech gymryd y camau dilynol i wneud yn si r fod swm eich dyled yn gywir ac efallai ostwng yr ôl-ddyled:

  • Hawlio unrhyw fudd-dal Treth Cyngor y mae gennych hawl iddo. Efallai y medrrch gael hyn wedi’i ôl-ddyddio;
  • Hawl unrhyw ryddhad, gostyngiad neu ddisgownt y mae gennych hawl iddynt. Er enghraifft, os mai chi yw’r unig oedolyn yn eich cartref, fel arfer mae gennych hawl i ostyngiad o 25% ar eich bil.

Os yw’ch cyngor wedi trosglwyddo’r ddyled i feilïaid, yna efallai y medrwch ddal i drafod gyda’r cyngor. Efallai y byddant yn cytuno i roi’r gorau ar weithredu beilïaid a derbyn cynllun ad-dalu. Os ydynt yn gwneud hynny, byddwch yn osgoi gorfod talu ffioedd beili.

Efallai y medrwch hefyd drefnu cynllun ad-dalu gyda’r beilïaid eu hunain. Fodd bynnag, mae beilïaid fel arfer eisiau ad-daliad dros gyfnod eithaf byr. Gall beilïaid preifat fod yn anodd iawn delio gyda hwy ac fel arfer mae’n well peidio gadael iddynt ddod i mewn i’ch cartref. Nid oes ganddynt hawl gorfodi mynediad os nad ydych wedi gadael iddynt fynd i mewn ar ymweliad o’r blaen.

Os ydych yn cael problemau yn dod i drefniant talu y medrwch ei fforddio gyda’r cyngor neu feilïaid, dylech ofyn am weld unrhyw God Ymarfer neu Bolisi Adferiad y dylent fod yn cydymffurfio ag ef.

Os yw popeth arall yn methu, gall eich cyngor ofyn i’r Llys Ynadon ystyried eich anfon i garchar am beidio talu. Gall y llys benderfynu un ai

  • Gosod cyfradd -ad-dalu
  • Dileu’r cyfan neu ran o’r ddyled yn dibynnu ar eich amgylchiadau
  • Gohirio neu beidio gwneud gorchymyn

Rydyn ni’n argymell eich bod yn gofyn am gyngor arbenigol os oes angen i chi fynychu gwrandawiad traddodi.

Os ydych angen help i ddelio gydag ôl-ddyled Treth Cyngor neu unrhyw agwedd arall o ddyled, rydyn ni’n argymell eich bod yn siarad gydag un o’n cynghorwyr dyled i gael cyngor arbenigol.


Nol





*