Skip navigation (access key S)
  • English language
  • Welsh language
  • Urdu language
  • Chinese language
  • Bengali language
  • Punjabi language
  • Gujarati language
  • Hindi language
  • Arabic language
  • Turkish language
Cyngor cyfreithiol cyfrinachol am ddim: 0845 345 4 345

Am gyngor cyfreithiol arbenigol am ddim

0845 345 4 345

Ffoniwch Cyngor Cyfreithiol Cymunedol (Community Legal Advice):

  • Cyngor diduedd, cyfrinachol am ddim y telir amdano gan gymorth cyfreithiol
  • Gwasanaeth gwaith achos llawn
  • Llun - Gwener 9am - 6.30pm
  • Galwadau o 4c/funud - galwad yn ôl ar gael

Canfod ymgynghorydd

 

Taliadau

Cynigia llawer o’r sefydliadau o fewn y Cyfeiriadur rai neu’r cyfan o’u gwasanaethau am ddim. Mae eraill yn codi tâl am eu gwasanaeth.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am daliadau i sefydliadau yn y Cyfeiriadur. Dylai pob sefydliad sydd â’r Marc Ansawdd roi gwybod i chi pan siaradwch â hwy am y tro cyntaf beth yw eu costau.

Cymorth Cyfreithiol (a enwir hefyd yn Gronfa Gwasanaeth Cyfreithiol).

Mae Cymorth Cyfreithiol yn cynorthwyo’r sawl na all fforddio gwasanaeth cyfreithiol ond iddynt gyflawni rhai amodau. Efallai y gofynnir i chi dalu rhywfaint o gostau eich achos. Cewch wybod rhagor gan eich cynghorwr.

Gallwch ddefnyddio'r Cyfrifydd Cymorth Cyfreithiol i ganfod a ydych yn gymwys ar gyfer cymorth cyfreithiol ai peidio.

Gwasanaethau am ddim

Mae llawer o sefydliadau, megis y Canolfannau Cyngor ar Bopeth a’r Canolfannau Cyfraith, yn cynnig gwasanaeth am ddim. Fodd bynnag, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu rhai costau, fel am lungopïo, i gyflenwi costau’r sefydliad.

Cyfweliad cychwynnol am ddim

Mae llawer o sefydliadau yn cynnig cyfnod penodol (yn aml 30 munud) ar gyfer cyngor cychwynnol. Er enghraifft, mae’r Llinell Ddamwain (Accident Line) yn cynnig, am ddim, y cyfweliad cychwynnol gyda chyfreithiwr ar gyfer y sawl a ddioddefodd niweidiau personol oherwydd damwain. Dengys y Cyfeiriadur[iv] pa gyfreithwyr sy’n perthyn i gynllun y Llinell Ddamwain. Am ragor o fanylion am y Llinell Ddamwain gallwch alw, am ddim, ar eu llinell gymorth ffôn ar 0500 192939.

Cyfweliad tâl sefydlog

Mae llawer o gyfreithwyr yn cynnig cyfweliad (fel rheol am 30 munud) am dâl sefydlog.

Taliadau i gyfreithwyr

Mae cyfreithwyr yn codi tâl mewn gwahanol ffyrdd, yn cynnwys yn ôl yr awr, taliadau sefydlog a thaliadau canrannol. Ar gychwyn yr achos, rhaid i’r cyfreithiwr roi gwybod i chi beth fydd cost debygol yr achos a sut y cyfrifwyd y tâl. Trwy gydol eich achos dylai’r cyfreithiwr roi gwybod i chi beth yw’r costau hyd yn hyn.

Pro Bono

Mae llawer o gyfreithwyr yn cynnig rhai gwasanaethau am ddim; gelwir hyn yn ‘Pro Bono’. Gallwch ganfod rhagor o wybodaeth am waith Pro Bono ar y gwefannau hyn:

Undebau llafur a sefydliadau moduro

Mae undebau llafur a sefydliadau moduro fel yr AA a’r RAC yn cynnig gwasanaeth cyfreithiol cost-isel neu am ddim i’w haelodau.