Yn yr adran hon
Angen siarad â rhywun nawr?
- Cael cyngor cyfreithiol cyfrinachol am ddim
Galwch 0845 345 4 345 - Dydd Llun i Ddydd Gwener 9.00y.b. i 8.00y.p.
- Dydd Sadwrn 9.00y.b. i 12.30y.p.
- Mae galwadau yn costio o 4c y funud - neu gofynnwch i ni galw chi `nôl
Chwiliwch am gynghorwyr yn eich ardal chi
A allaf gael cymorth cyfreithiol?
Mae’r cyfrifydd cymorth cyfreithiol yn caniatáu i chi ganfod a allwch chi gael cymorth cyfreithiol ar gyfer achos sifil.
Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau i chi ynglŷn â’ch problem a’ch amgylchiadau ariannol. Ni chedwir unrhyw wybodaeth a roir yn y cyfrifydd, felly mae’n gyfangwbl gyfrinachol a dienw. 
Gallwch brintio’r canlyniadau ar y diwedd ar gyfer eich cofnodion.
Nid yw canlyniadau’r cyfrifydd yn gwarantu y byddwch yn derbyn cymorth cyfreithiol ond byddant yn gweithredu fel arweiniad. I gael y canlyniadau cywiraf fe all y bydd angen dogfennau personol neilltuol wrth law arnoch.
Pe baech yn derbyn budd-daliadau o’r Gwasanaeth Cynnal Cenedlaethol i Geiswyr Lloches (NASS), gall y bydd rheolau arbennig ar eich cyfer. I ganfod os oes, dylech gysylltu ag ymgynghorydd cyfreithiol. Gallwch ganfod ymgynghorydd trwy chwilio yn ein cyfeiriadur.
Newid pwysig
Gall newid diweddar i brawf modd cymorth cyfreithiol sifil effeithio arnoch chi os ydych hefyd wedi gwneud cais am gymorth cyfreithiol troseddol ar gyfer achos yn Llys y Goron.
O 11 Ionawr 2010, bydd angen i ni ystyried unrhyw daliad misol sydd raid i chi neu eich partner ei wneud dan 'orchymyn cyfrannu', tuag at gostau cynrychiolaeth gyfreithiol eich achos troseddol. Bydd yn rhaid didynnu swm y cyfraniad ynghyd ag unrhyw ddidyniadau eraill a wnewch ar gyfer treth incwm, taliadau yswiriant cenedlaethol, costau tai, etc, wrth asesu eich incwm gwario.
Os gwnewch gyfraniad misol tuag at gostau gymorth cyfreithiol troseddol, a’ch bod yn credu y byddwch nawr yn gymwys i dderbyn cymorth cyfreithiol sifil, rhowch dystiolaeth os gwelwch yn dda o'r swm a dalwyd i'ch cyfreithiwr.
Ydych chi’n ansicr beth yw cymorth cyfreithiol a phwy all ei gael? Canfyddwch ragor.
