Polisi preifatrwydd
Mae’r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol yn cadw’r hawl i gasglu gwybodaeth gan ei ymwelwyr i’w alluogi i wella ei wasanaethau i’w gwsmeriaid. Nid yw gwefan y Cyngor Cyfreithiol Cymunedol yn dal yn awtomatig nac yn storio gwybodaeth bersonol, heblaw logio cyfeiriad Protocol Rhyngrwyd (neu IP) defnyddiwr a gwybodaeth sesiwn megis hyd eu hymweliad, a’r math o borwr a’r llwyfan a ddefnyddiant. Caiff yr wybodaeth hon ei chydnabod gan y serfiwr gwe a dim ond ar gyfer gweinyddiaeth system y’i defnyddir ac i roi ystadegau dienw y mae’r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol yn eu defnyddio i werthuso defnydd o’r wefan.
Nid yw’r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol yn defnyddio cwcis ar gyfer casglu gwybodaeth defnyddwyr o’r wefan hon.
Os llenwch y ffurflen adborth electronig, gall eich gwybodaeth bersonol (sy’n cynnwys eich enw, cyfeiriad ac unrhyw fanylion eraill a roddwch sy’n eich dynodi fel unigolyn) gael ei phrosesu gan y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol er mwyn ymateb i’ch adborth, unrhyw ymholiadau neu faterion eraill yr ydych wedi eu codi ac i helpu’r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol i wella’r wefan hon. Gall y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol ddefnyddio adborth dienw yn achlysurol i roi cyhoeddusrwydd i’r wefan hon.
Mae’r wefan hon yn cynnwys cysylltau i wefannau eraill, ond dim ond at wefan y Cyngor Cyfreithiol Cymunedol y mae’r datganiad preifatrwydd yn cyfeirio. Dylech fod yn ymwybodol o hyn pan fyddwch yn symud i wefan arall a gwneud yn siŵr eich bod yn darllen polisi preifatrwydd unrhyw wefan arall sy’n casglu gwybodaeth bersonol.
Mesurau diogeledd
Mae’r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol (sy’n cynnwys y Cyngor Cyfreithiol Cymunedol, y cynllun Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol neu CLS) yn cymryd diogeledd ei systemau technoleg gwybodaeth yn ddifrifol iawn. Mae ei bolisi diogeledd technoleg gwybodaeth yn cydymffurfio â’r Safon Prydeinig: Cod Ymarfer ar gyfer Rheolaeth Diogeledd Gwybodaeth (BS7799). Mae’r polisi yn darparu fod yn rhaid i bob gwybodaeth a gedwir ar ei systemau technoleg gwybodaeth gael ei diogelu rhag datgeliad, addasu neu ddinistrio heb awdurdod - bydded hynny’n ddamweiniol neu fwriadol. Nod y polisi hwn yw diogelu systemau technoleg gwybodaeth y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol i gynnal:
cyfrinachedd – diogelu datgeliad gwybodaeth i bobl heb awdurdod
integriti – atal pob math o addasiad heb awdurdod a llygru gwybodaeth a meddalwedd; ac
argaeledd - atal colli argaeledd gwybodaeth a gwasanaeth, bydded hynny dros dro neu drwy ddinistriad parhaol
Hawl mynediad i ddata personol dan Ddeddf Diogelu Data 1998
Os gwnewch gais ysgrifenedig at Paul Drinkwater, Direct Services, Legal Services Comission, Exchange Tower, 2 Harbour Exchange Square, London, E14 9GE mae gennych hawl i gael clywed:
- os yw’r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol neu rywun arall ar ei ran yn prosesu eich data
- os felly, disgrifiad o’r data personol dan sylw, y dibenion y caiff ei brosesu ar ei gyfer, a’r rhai y maent wedi neu y gallant gael ei datgelu
- mewn ffordd rhwydd ei deall, yr holl wybodaeth a gynhwysir yn y data personol a ffynhonnell y data hwnnw
Mae ffi o £10 yn daladwy am y gwasanaeth hwn.
I gael gwybodaeth bellach gweler daflen y CGC ‘Mynediad i Wybodaeth’
Geirfa
Mae geirfa dda sy’n cynnwys y termau technegol a ddefnyddir ym mholisi preifatrwydd y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol i’w chael ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.










