Cymorth gyda PDF
- Beth ydi PDF?
- Sut i ddarllen PDF
- Sut i gadw PDF
- Eisiau chwilio am wybodaeth mewn PDF?
- Sut i argraffu PDF
- PDFau ar gyfer y rhai sydd â nam ar y golwg
Beth yw PDF?
Mae bron y cyfan o’r dogfennau geir ar y wefan hon ar Fformat PDF (Portable Document Format). Defnyddiwn y PDFau oherwydd eu bod mor dda ar gyfer darllen ar sgrin ac argraffu.
I’ch galluogi i agor ffeiliau PDF bydd arnoch angen copi o Adobe Reader yn eich cyfrifiadur. Gellir lawrlwytho’r feddalwedd am ddim oddi ar wefan Adobe ac yno cewch eich tywys drwy’r broses.
Sut i ddarllen PDF
I ddarllen PDF dim ond clicio ar ei ddolen sydd ei angen a bydd yn agor mewn sgrin newydd.
Sut i gadw PDF
I gadw PDF naill ai ewch i File (cornel uchaf chwith), yna Save As. Neu cliciwch ar fotwm ‘save a copy’ ar y blwch offer.
A ydych eisiau chwilio am wybodaeth mewn PDF?
Efallai eich bod eisiau cael hyd i wybodaeth benodol heb ddarllen drwy'r ddogfen gyfan. Gallwch wneud hyn trwy chwilio am un gair neu ymadrodd: Mae dwy ffordd o wneud hyn:
- Gwasgwch Control + F. Ymddengys blwch bychan ble mae angen i chi roi’r gair neu’r ymadrodd y chwiliwch amdano. Unwaith y byddwch wedi rhoi'r gair gwasgwch enter ar eich bysellfwrdd. Yna gallwch glicio ‘Previous’ neu ‘Next’ i’ch galluogi i fynd drwy’r ddogfen.
- Cliciwch ar eicon yr ysbienddrych ar y blwch offer. Rhowch y gair neu’r ymadrodd y chwiliwch amdano ac yna clicio ar ‘search’. Bydd rhestr yn dychwelyd i’r sgrin yn dangos ble yr ymddengys y gair neu’r ymadrodd.
Sylwer na fyddwch ond yn gallu chwilio’r ddogfen sy’n agored ar y pryd.
Sut i argraffu PDF
I argraffu dogfen PDF cliciwch y botwm argraffu yn y blwch offer. Gallwch argraffu’r ddogfen gyfan neu dudalennau dewisol.
PDFau ar gyfer rhai â nam ar y golwg
Rydym yn anelu at wneud ein holl PDFau mor hygyrch â phosibl fel y gellir eu defnyddio gyda meddalwedd darllen sgrin.
Os oes gennych fersiwn 7 neu ddiweddarach o’r Adobe Reader, gallwch ddefnyddio eu hychwanegiadau hygyrchedd.
Pe baech â nam ar y golwg golyga hyn y byddai Adobe Reader yn darllen yn uchel ddogfen i chi. I wneud hyn:
- cadwch gopi o’r PDF ar eich cyfrifiadur
- rhowch glic dwbl ar y ddogfen i’w hagor yn Adobe Reader
- ewch i’r ddewislen weledol a defnyddio'r dewis ‘read out aloud’.
Efallai y bydd rhai dogfennau (ee dogfennau yn cynnwys tablau cymhleth) yn pallu gweithio. Os cewch anhawster mynd i mewn i ddogfen PDF cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda. Fe wnawn ninnau’n gorau i ddarparu ar eich cyfer fersiwn sy’n cwrdd â’ch anghenion.
Gweler canolfan ffynonellau hygyrchedd Adobe am ragor o wybodaeth.
Browse topics
- Benefits
- Communications and media
- Consumer affairs
- Education and training
- Employment
- Environment and countryside
- Family and personal
- Government, law and rights
- Health and social care
- Housing and homelessness
- Immigration and nationality
- Money and tax
- Police and crime
- Transport, travel and leisure
Do you help people get advice?
If you talk to people who may need legal advice, see how Community Legal Advice can help you.










