Yn yr adran hon
- Alla i gael cymorth os nad oes gennyf le i fyw ynddo?
- A fydd y cyngor yn cael cartref i mi?
- Beth os na wna'r cyngor fy helpu?
- Beth petawn mewn perygl o golli fy nghartref oherwydd fy landlord?
- Beth alla i ei wneud os oes rhywun yn fy nheulu'n fy ngham-drin?
- Sut y gall yr heddlu neu gyfreithiwr fy helpu?
- Pa gamau cyfreithiol alla i eu cymryd i ddiogelu fy hun a'm plant?
- Sut allaf helpu rhywun sy'n cael ei gam-drin?
Angen siarad â rhywun nawr?
- Cael cyngor cyfreithiol cyfrinachol am ddim
Galwch 0845 345 4 345 - Dydd Llun i Ddydd Gwener 9.00y.b. i 8.00y.p.
- Dydd Sadwrn 9.00y.b. i 12.30y.p.
- Mae galwadau yn costio o 4c y funud - neu gofynnwch i ni galw chi `nôl
Chwiliwch am gynghorwyr yn eich ardal chi
Alla i gael cymorth os nad oes gennyf le i fyw ynddo?
Mae meddwl am fod heb unman i fyw ynddo yn ddigon i godi arswyd ar unrhyw un. Ond mae yna gyfreithiau i'ch amddiffyn rhag bod yn ddigartref, yn enwedig os ydych yn berson sy'n agored i niwed - er enghraifft, os ydych yn ifanc, yn feichiog neu'n cael eich bygwth gan rywun. Mewn sawl achos, rhaid i'ch cyngor lleol ganfod rhywle i chi fyw ynddo. Mae yna reolau sy'n dweud pryd a sut y mae'n rhaid iddynt eich helpu - gweler A fydd y cyngor yn cael cartref i mi? Ond hyd yn oed pe na baent yn eich helpu, mae yna gyrff eraill, megis Shelter Cymru, a all eich helpu i ganfod rhywle i fyw ynddo.
Beth os na allaf aros yn fy nghartref presennol?
Nid oes raid i chi fod yn cysgu ar y stryd i fod yn ddigartref. Fe all eich bod yn gymwys i gael help i ganfod rhywle i fyw ynddo (neu i aros yn eich cartref), os oes rheswm da gennych dros eich trafferthion presennol gartref. Yma rydym yn egluro beth allai?r rhesymau hynny fod.
nôl i'r dechrau
