Yn yr adran hon
Angen siarad â rhywun nawr?
- Cael cyngor cyfreithiol cyfrinachol am ddim
Galwch 0845 345 4 345 - Dydd Llun i Ddydd Gwener 9.00am i 8.00pm
- Dydd Sadwrn 9.00am i 12.30pm
- Mae galwadau yn costio o 4c y funud - neu gofynnwch i ni eich ffonio'n ôl
Chwiliwch am gynghorwyr yn eich ardal chi
Lefel yr help cyfreithiol
Help cyffredinol
Dylech ddefnyddio darparwr help cyffredinol pan fo arnoch angen help gan rywun i ganfod prif elfennau’ch problem a darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i ddatrys eich problemau elfennol. Yn nodweddiadol darparwyr help cyffredinol yw canolfannau cyngor ar bopeth ac asiantaethau cynghori eraill.
Byddant yn:
- gwneud diagnosis o’ch problem;
- egluro’r dewisiadau sydd ar gael i chi;
- eich helpu i ganfod camau pellach y gallwch eu cymryd;
- rhoi cymorth elfennol i chi;
- llenwi ffurflenni a drafftio llythyrau a;
- chysylltu â sefydliadau eraill am ragor o wybodaeth os yn angenrheidiol.
Gall rhai sefydliadau help-cyffredinol hefyd gynnig gwaith achos. Mae hyn yn golygu:
- y gallant ddwyn achos ar eich rhan;
- y gallant gyflwyno’ch achos i rywun arall i’w perswadio i benderfynu o’ch plaid;
- y gallant drafod dros y ffôn, drwy lythyr, neu wyneb yn wyneb; a
- gall y byddant yn darparu gwasanaethau eiriolaeth. Mae hyn yn golygu siarad ar eich rhan mewn achosion ffurfiol, er enghraifft mewn rhai tribiwnlysoedd.
Gall sefydliadau gynnig gwaith achos mewn gwahanol feysydd cyfraith – er enghraifft, tai neu faterion sy’n effeithio ar bobl hŷn. Dylech bori drwy’r cyfeirlyfr i weld pa sefydliadau sy’n cynnig y math o waith achos sydd ei angen arnoch.
Sylwer os gwelwch yn dda mai dim ond mewn rhai tribiwnlysoedd y gall y sefydliadau hyn eich cynrychioli. Ni allwch gael cymorth cyfreithiol ar y lefel hon, a gall y bydd raid i chi dalu peth costau. Siaradwch â’ch ymgynghorydd i ganfod mwy.
Help arbenigol
Dylech ddefnyddio darparwr help arbenigol pan fyddwch eisiau rhywun i’ch cynghori ar broblem gyfreithiol ddyrys a gweithredu’r ystod lawn o wasanaethau cyfreithiol, yn cynnwys cynrychiolaeth. Gall cymorth cyfreithiol fod ar gael ar y lefel hon ac mae’n helpu pobl na all fforddio cynrychiolaeth, cyn belled â’u bod yn bodloni amodau neilltuol – gweler ein tudalen Costau am fwy o wybodaeth. Yn nodweddiadol, darparwyr help arbenigol yw cyfreithwyr, canolfannau cyfraith, a rhai canolfannau cyngor ar bopeth.
Beth fyddant yn ei wneud?
- Byddant yn cynnig cyngor a help cyfreithiol ar faterion cymhleth mewn meysydd cyfraith penodol; a
- gallant eich cynrychioli mewn llys, lle caniateir hyn.
Mae darparwyr arbenigol yn cynghori ar wahanol feysydd cyfraith – er enghraifft, tai, dyled, mewnfudo a throsedd. Gweler Meysydd cyfraith am fanylion llawn.

