Y Nod Ansawdd
Mae’r Nod Ansawdd yn dangos fod sefydliad yn ateb y safonau ansawdd a osodwyd gan y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol. Yr ydym yn gwirio’n rheolaidd fod sefydliadau yn parhau i ateb y safonau hyn. I ganfod y sefydliadau hyn edrychwch am logo Cyngor Cyfreithiol Cymunedol islaw neu edrych yn y Cyfeiriadur.![]()
Mae dau fath o sefydliad yn y Cyfeiriadur sydd â’r Nod Ansawdd: Help Cyffredinol a Help Arbenigol. Caiff y lefelau gwasanaeth y medrant eu darparu eu nodi islaw.
Help cyffredinol
Dylech ddefnyddio darparydd help cyffredinol pan ydych eisiau rhywun i’ch helpu i ddynodi prif elfennau eich problem a rhoi gwybodaeth, cyngor a help i ddatrys eich problemau sylfaenol. Mae canolfannau Cyngor Ar Bopeth ac asiantaethau cyngor eraill yn ddarparwyr help cyffredinol.
Beth fyddant yn wneud?
Byddant yn:
- diagnosio eich problem
- esbonio’r opsiynau sydd ar gael i chi
- eich helpu i ddynodi camau pellach y medrwch eu cymryd
- rhoi cymorth sylfaenol i chi
- llenwi ffurflenni a drafftio llythyrau; a
- cysylltu â sefydliadau eraill i gael gwybodaeth bellach os oes angen.
Help cyffredinol gyda gwaith achos
Gall rhai sefydliadau help cyffredinol hefyd gynnig gwaith achos. Mae hyn yn golygu y:
- medrant weithredu ar eich rhan
- medrant gyflwyno eich achos i rywun arall i’w darbwyllo i wneud penderfyniad o’ch plaid
- medrant negodi dros y ffôn, drwy lythyr neu wyneb i wyneb; a
- medrant efallai ddarparu gwasanaethau adfocatiaeth. Mae hyn yn golygu siarad ar eich rhan mewn trafodion ffurfiol, er enghraifft mewn rhai tribiwnlysoedd.
Gall sefydliadau gynnig gwaith achos mewn gwahanol feysydd o gyfraith - er enghraifft, tai neu faterion yn effeithio ar bobl hŷn. Dylech edrych ar y Cyfeiriadur i weld pa sefydliadau sy’n cynnig y math o waith achos yr ydych ei angen.
Help arbenigol
Dylech ddefnyddio darparydd help arbenigol pan ydych eisiau i rywun eich cynghori ar broblem gyfreithiol gymhleth a chynnal yr amrediad llawn o wasanaethau cyfreithiol yn cynnwys cynrychiolaeth. Mae’r Gronfa Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol yn helpu pobl na all fforddio cynrychiolaeth, cyhyd â’u bod yn ateb rhai amodau - gweler ein tudalen Costau i gael mwy o wybodaeth. Gall cyfreithwyr, Canolfannau Cyfraith a rhai canolfannau Cyngor Ar Bopeth fod yn ddarparwyr help arbenigol.
Beth fyddant yn wneud?
- Byddant yn cynnig cyngor a chymorth cyfreithiol ar faterion cymhleth mewn meysydd penodol o’r gyfraith; a
- Medrant eich cynrychioli yn y llys, lle caniateir hyn.
Mae darparwyr arbenigol yn cynghori ar wahanol feysydd o gyfraith – er enghraifft, tai, dyled, mewnfudo a throseddu. Gweler Categorïau Cyfraith i gael manylion llawn.
Ydych chi eisiau gwybod mwy?
Lawrlwythwch wybodaeth am Nod Ansawdd y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol yn safonau Nod Ansawdd.
Browse topics
- Benefits
- Communications and media
- Consumer affairs
- Education and training
- Employment
- Environment and countryside
- Family and personal
- Government, law and rights
- Health and social care
- Housing and homelessness
- Immigration and nationality
- Money and tax
- Police and crime
- Transport, travel and leisure
Do you help people get advice?
If you talk to people who may need legal advice, see how Community Legal Advice can help you.










