Categorïau cyfraith
Medrwch ddefnyddio’r Cyfeiriadur i chwilio am gynghorwyr cyfreithiol yn y meysydd dilynol o’r gyfraith:
Addysg
Mae’r categori hwn yn cynnwys help cyfreithiol ar broblemau yn ymwneud â’r gwasanaeth addysg, yn cynnwys methiant i ddarparu addysg. Er enghraifft, gallwch fod eisiau gwybod am wneud achos cyfreithiol dros gyllid addysg neu am addysg ar gyfer anghenion arbennig.
Anaf personol
Mae’r categori hwn yn cynnwys help gyda hawliadau am iawndal am anaf a achoswyd gan berson neu sefydliad arall. Er enghraifft, gallwch fod angen cyngor ar hawlio iawndal yn dilyn damwain ffordd. Medrech fod eisiau gwybod lle’r ydych yn sefyll ar fater damwain yn y gwaith neu afiechyd y gwnaethoch ei ddal yno.
Budd-daliadau lles
Mae’r categori hwn yn cynnwys help gyda hawl i bob math o fudd-daliadau lles. Er enghraifft, gallwch fod angen cyngor ar fudd-dal tai, pensiwn rhyfel neu bensiwn gwladol. Gallwch fod angen gwybod beth sy’n digwydd mewn cyfarfod adolygu budd-daliadau lles.
Contract defnyddwyr a chyffredinol
Mae’r categori hwn yn cynnwys help gyda phob math o gontract a wneir gan ddefnyddwyr. Er enghraifft, gallwch fod angen cyngor am wneud hawliad pan nad yw cynnyrch yn gwneud yr hyn yr hawliodd gwerthwr neu gynhyrchydd ar ei gyfer. Gallwch fod angen i gwmni gyflawni contract a lofnodwyd gennych neu i unioni gwaith nag yw i fyny i safon.
Cyflogaeth
Mae’r categori hwn yn cynnwys help ar unrhyw beth i’w wneud gyda’r hyn sy’n digwydd yn y gwaith. Er enghraifft, medrwch deimlo i chi gael eich diswyddo yn annheg. Medrwch fod angen cyngor ar agweddau o’ch contract cyflogaeth a ph’un ai a oes gennych achos dros wahaniaethu hiliol neu rywiol. Medrwch fod angen gwybod os yw streic yn gyfreithiol neu’ch sefyllfa ar ddiogelu data a chyfrinachedd cyflogedigion.
Cyfraith gyhoeddus
Mae’r categori hwn yn cynnwys help cyfreithiol ar hawliau sifil neu iawnderau dynol. Er enghraifft, medrech fod eisiau gwybod sut y bydd Deddf Hawliau Dynol 1998 yn effeithio ar eich sefyllfa. Medrwch hefyd gael cyngor ar ddiogelu data, materion rhyddid gwybodaeth a sut i herio penderfyniadau cyrff cyhoeddus.
Dyled
Mae’r categori hwn yn cynnwys help yng nghyswllt arian sydd yn ddyledus gennych. Er enghraifft medrech fod angen cyngor oherwydd eich bod yn fethdalwr neu’n ansolfedd. Gallwch fod angen gwybod eich sefyllfa gyfreithiol os oes gennych ddyled ar eich morgais, treth neu daliadau buddsoddiad.
Esgeulustod clinigol
Mae’r categori hwn yn cynnwys help gyda hawliadau am iawndal yn erbyn pob math o ymarferwyr meddygol cyhoeddus a phreifat. Mae hyn yn cynnwys triniaeth gan feddygon, nyrsys a deintyddion.
Gofal yn y gymuned
Mae’r categori hwn yn cynnwys help cyfreithiol am wasanaethau yn y gymuned a gaiff eu darparu gan adran gwasanaethau cymdeithasol neu awdurdod gofal iechyd. Er enghraifft, gallwch fod angen help i wneud hawliad am y methiant i ddarparu gwasanaethau neu gyfleusterau i rywun sy’n wael, oedrannus neu gydag anabledd.
Iechyd meddwl
Mae’r categori hwn yn cynnwys help mewn pob mater lle mai iechyd meddwl yw’r prif fater ac rydych chi neu ddibynnydd eisiau cael gwasanaethau wedi eu darparu neu’ch bod yn wynebu cael eich cadw mewn sefydliad. Medrwch gael help ar unrhyw beth i’w wneud gyda Deddf Iechyd Meddwl 1983.
Mewnfudo a dinasyddiaeth
Mae’r categori hwn yn cynnwys help cyfreithiol ar unrhyw beth yn ymwneud gyda mewnfudo i’r Deyrnas Unedig. Er enghraifft, medrwch fod â chwestiynau am eich dinasyddiaeth neu’ch hawl i aros yn y wlad hon. Gallwch fod angen gwybod am loches, yr wybodaeth yr ydych ei hangen i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig a pham y gallwch gael eich alltudio.
Tai
Mae’r categori hwn yn cynnwys help ar broblemau cyfreithiol yn ymwneud â’ch cartref. Er enghraifft, medrwch gael cyngor os ydych mewn dyled gyda’ch rhent neu forgais, angen gwelliannau neu waith trwsio, neu’n cael eich troi o’ch cartref neu’n dioddef o sŵn neu niwsans. Mae hyn yn cynnwys hawliau lesddalwyr.
Teulu
Mae’r categori hwn yn cynnwys help cyfreithiol ar bob mater teulu. Er enghraifft, medrwch fod eisiau cyngor ar beth i’w wneud os ydych eisiau i’ch plant fyw gyda chi yn dilyn ysgariad ac os dylai’r rhiant arall fod â chyswllt gyda hwy. Medrwch gael help ar beth i’w wneud am drais yn y cartref, neu os yw’ch plentyn yn gorfod mynd i ofal neu’n cael ei ystyried ar gyfer mabwysiadu.
Trafodion yn erbyn yr heddlu
Mae’r categori hwn yn cynnwys help cyfreithiol gyda thrafodion yn erbyn yr heddlu. Er enghraifft, gallwch fod angen cyngor ar drafodion yn erbyn yr heddlu am ymosodiad, dod i mewn i’ch cartref, carcharu ar gam, arestio ar gam, ymyrryd gyda’ch eiddo, erlyniad maleisus neu gam-drin awdurdod yr heddlu.
Troseddau
Mae’r categori hwn yn cynnwys help cyfreithiol ar bopeth i wneud gyda thrafodion troseddol. Er enghraifft, mae'n cynnwys cael eich ymchwilio, erlyn a dedfrydu. Gallwch fod angen cyngor ar hyd dedfryd yn y carchar, dalfa neu barôl. Mae’r categori hefyd yn cynnwys help am y ffordd y caiff carcharorion eu trin.










