Skip navigation (access key S)
  • English language
  • Welsh language
  • Urdu language
  • Chinese language
  • Bengali language
  • Punjabi language
  • Gujarati language
  • Hindi language
  • Arabic language
  • Turkish language
Cyngor cyfreithiol cyfrinachol am ddim: 0845 345 4 345

Am gyngor cyfreithiol arbenigol am ddim

0845 345 4 345

Ffoniwch Cyngor Cyfreithiol Cymunedol (Community Legal Advice):

  • Cyngor diduedd, cyfrinachol am ddim y telir amdano gan gymorth cyfreithiol
  • Gwasanaeth gwaith achos llawn
  • Llun - Gwener 9am - 6.30pm
  • Galwadau o 4c/funud - galwad yn ôl ar gael

Canfod ymgynghorydd

 

Defnyddio Chwiliad Cyngor

Defnyddio Chwiliad Cyngor

Gofynnir i chi nodi mai dim ond yn Saesneg mae'r ddyfais Chwiliad Cyngor ar gael ar hyn o bryd, ac efallai mai dim ond yn Saesneg yn unig y bydd y safleoedd a ddychwelir pan yn defnyddio Chwiliad Cyngor.

Medrwch ddefnyddio Chwiliad Cyngor (unig Saesneg) i gael gwybodaeth ar faterion cyfreithiol o unrhyw un o'r 300+ safle yr ydym wedi dyfarnu eu bod yn rhoi cyngor defnyddiol a sylweddol.

Mae Chwiliad Cyngor yn eich galluogi i ddewis y pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo; byddwch wedyn yn medru cysylltu gyda gwefannau eraill yn cynnig cyngor a gwybodaeth ar y maes neilltuol o gyfraith. Os na wyddoch pa bwnc yr ydych angen, edrychwch ar ein disgrifiadau pwnc.

O fewn pob pwnc, medrwch chwilio am wybodaeth mewn tair ffordd:

Pori'r safleoedd o fewn pob pwnc
Ar ôl dewis pwnc, bydd Chwiliad Cyngor yn rhoi rhestr o'r holl wefannau i chi sy'n trafod y pwnc. Porwch drwy'r rhestr o safleoedd a dewis y rhai y credwch a fedrai ateb eich ymholiad. Cliciwch ar deitl pob safle i fynd i'r wefan honno.

Pori'r safleoedd o fewn pob is-bwnc
Porwch drwy'r is-bynciau a dewis yr un sy'n cyfateb orau i'ch ymholiad. Yna cyflwynir rhestr i chi o wefannau perthnasol i'r is-bwnc hwn.

Chwiliad testun-rhydd

O fewn unrhyw bwnc (neu is-bwnc), medrwch ddodi unrhyw gwestiwn, neu air/geiriau i esbonio'r wybodaeth yr ydych yn chwilio amdani. (Er enghraifft, medrech deipio 'I am being evicted' neu 'eviction'. Byddwch yn cael canlyniadau gwell drwy ddefnyddio allweddair (neu eiriau) megis 'eviction' na thrwy ofyn cwestiwn. Cliciwch ar fotwm Galw Gwasanaethau Cyfreithiol Cymunedol. Bydd Chwiliad Cyngor yn rhoi dewis o'r gwefannau i chi (neu dudalennau o fewn y wefan) yn y pwnc hwn a ddarperir gan sefydliadau eraill sy'n ateb eich ymholiad orau.

Ar gyfer pob dewis, byddwch yn cael:

  • Enw'r sefydliad neu wefan
  • Pwnc y wefan (neu dudalennau)
  • Crynodeb o'r wefan (neu dudalennau)
  • Canran (%) perthnasedd y wefan (neu dudalennau) - pa mor agos mae'r ddogfen yn cyfateb eich ymholiad
  • Y dyddiad diwethaf i'r wefan (neu dudalennau) gael eu haddasu

Os ydych eisiau chwilio o fewn Pwnc gwahanol, yna dylech ddychwelyd i Chwiliad Cyngor 'Galw Gwybodaeth Cyfreithiol Cymunedol' drwy glicio ar y botwm Chwiliad Cyngor.

Cwynion
Os oes gennych gwyn am unrhyw wefan y cysylltwn â hi, dylech gyfeirio eich cwyn at ddarparwyr y safle hwnnw. Ond mae croeso i chi adael i ni wybod hefyd, drwy ddefnyddio'r cyfleuster Adborth.

YMWADIAD

Cyfrifoldeb darparydd y safle yw cywirdeb y cyngor a roddir ar y safleoedd y mae'r swyddogaeth Chwiliad Cyngor yn rhoi cysylltau iddynt. Ni dderbynnir cyfrifoldeb gan nag ar ran yr Arglwydd Ganghellor neu Adran yr Arglwydd Ganghellor nag Adrannau neu Asiantaethau eraill Llywodraeth Ei Mawrhydi am gyngor anghywir neu gamarweiniol a roddir ar y tudalennau hyn neu unrhyw safle y mae'r tudalennau yn cysylltu â hwy, yn cynnwys unrhyw nodwedd neu agwedd o safle neu dudalennau o'r fath.

Chwiliad Cyngor (Unig Saesneg)

Meini prawf ar gyfer safleoedd i gael eu cysylltu i Chwiliad Cyngor