Skip navigation (access key S)
  • English language
  • Welsh language
  • Urdu language
  • Chinese language
  • Bengali language
  • Punjabi language
  • Gujarati language
  • Hindi language
  • Arabic language
  • Turkish language
Cyngor cyfreithiol cyfrinachol am ddim: 0845 345 4 345

Am gyngor cyfreithiol arbenigol am ddim

0845 345 4 345

Ffoniwch Cyngor Cyfreithiol Cymunedol (Community Legal Advice):

  • Cyngor diduedd, cyfrinachol am ddim y telir amdano gan gymorth cyfreithiol
  • Gwasanaeth gwaith achos llawn
  • Llun - Gwener 9am - 6.30pm
  • Galwadau o 4c/funud - galwad yn ôl ar gael

Canfod ymgynghorydd

 

Gwefan

Mae gwefan Cyngor Cyfreithiol Cymunedol yn darparu gwybodaeth gyfreithiol o’r ansawdd orau am ddim i’ch helpu i ddelio â’ch problemau cyfreithiol.

Beth sydd ar gael ar y wefan hon?

Defnyddiwch ein hofferyn rheoli dyledion i gael cyngor diduedd am ddim ynglŷn â dyledion.

Darllen taflenni gwybodaeth a dalennau ffeithiau sydd i’w cael am ddim

Bydd ein taflenni gwybodaeth a’n dalennau ffeithiau sydd i’w cael am ddim yn eich helpu i ddeall eich hawliau cyfreithiol.

  • Ysgrifennir ein taflenni gan arbenigwyr annibynnol ac maent yn rhoi amlinelliad o’ch hawliau cyfreithiol parthed dyled, tai a budd-daliadau ynghyd â meysydd cyfreithiol eraill
  • Mae ein dalennau ffeithiau yn rhoi atebion parod i gwestiynau cyfreithiol a ofynnir yn aml, megis “beth ydi pwerau beilïaid a chasglwyr dyledion?”

Chwilio am wybodaeth gyfreithiol

Gallwch ddefnyddio’r wefan hon i chwilio am wybodaeth gyfreithiol gan sefydliadau dibynadwy megis Shelter, Help the Aged a’r BBC.

Cliciwch ar un o’r testunau ar y dde sy’n berthnasol i’ch problem neu defnyddiwch y blwch chwilio uchod. Bydd hwn yn chwilio am gyngor sy’n berthnasol i’ch problem ar rai o wefannau cynghori gorau’r DU.

Cael hyd i gynghorydd cyfreithiol

Mae ein Cyfeiriadur yn eich cynorthwyo i ganfod cynghorwyr cyfreithiol neu gyfreithwyr cyfagos o’r ansawdd orau. Mae’n cynnwys manylion am bawb sydd â Marc Ansawdd y Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol.

Cael gwybod a ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol

Mae ein cyfrifydd cymorth cyfreithiol yn eich helpu i ganfod a allwch chi dderbyn cymorth cyfreithiol ai peidio. Mae’n gofyn cwestiynau cyfrinachol i chi ynglŷn â’ch problem gyfreithiol a’ch amgylchiadau ariannol.

Defnyddio’r safle hwn

Rydym wedi ymorol yn ofalus bod y wefan hon yn helpu cymaint ag sydd bosibl o bobl:

  • mae gwybodaeth ar gael yn Saesneg, Cymraeg, Arabeg, Bengali, Tsieinëeg, Gujarati, Hindi, Punjabi, Twrceg ac Urdu.
  • rydym yn cydweithio â’r Shaw Trust i ymorol fod ein gwefan yn cyrraedd eu safon Accessibility Plus. Mae ein safle hefyd yn cydweddu â Browsealoud.

Ceir rhagor o wybodaeth am nodweddion hygyrchedd y wefan hon yn yr adran gymorth.

Credydau

Rheolir a pherchnogir y wefan hon gan y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu gwestiynau ynglŷn â’r wefan hon, cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda, trwy ddefnyddio ein ffurflen adborth.