Llinell gymorth Cyngor Cyfreithiol Cymunedol (Community Legal Advice)
- Sut y gall llinell gymorth Cyngor Cyfreithiol Cymunedol (Community Legal Advice) eich cynorthwyo
- Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn ffonio?
- Beth fydd yn digwydd os byddaf yn gofyn i chi roi galwad i mi yn ôl?
- Cyngor ar gael mewn ieithoedd eraill
- Minicom a typetalk
Sut y gall llinell gymorth Cyngor Cyfreithiol Cymunedol (Community Legal Advice) eich cynorthwyo
Mae Cyngor Cyfreithiol Cymunedol yn wasanaeth cynghori cyfrinachol am ddim a delir amdano gan gymorth cyfreithiol. Os ydych yn byw ar incwm isel neu ar fudd-daliadau, ffoniwch am gyngor annibynnol ynglŷn â dyled, addysg, budd-daliadau a chredydau treth, problemau cyflogaeth a thai.
Gallwch:
- Ein ffonio ni ar 0845 345 4 345 rhwng 9am a 6.30pm Llun i Wener. Nid yw galwadau’n costio mwy na 4c y funud o linell BT. Mae galwadau o ffonau symudol fel rheol yn ddrytach. Poeni am y gost? Gofynnwch i ymgynghorydd roi galwad yn ôl i chi.
- Gofyn i ni roi galwad i chi. Defnyddiwch ein gwasanaeth galwad yn ôl trwy lenwi’r ffurflen hon neu’n syml, gallwch decstio ‘legalaid’ a’ch enw at 80010 a byddwn yn rhoi galwad yn ôl i chi o fewn 24 awr.
Cost eich tecst fydd cyfradd safonol eich gweithredwr.
Mae’r gwasanaeth hwn yn cynnwys cyfraith Lloegr a Chymru
Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn ffonio?
Cysylltydd fydd y person cyntaf fydd yn siarad â chi. Nid ydynt wedi cael hyfforddiant cyfreithiol ond byddant yn gofyn cwestiynau ynglŷn â’ch problem i ganfod pa fath o wybodaeth a chyngor y mae arnoch ei angen.
- Petai gennych broblem y gallwn roi cymorth ynglŷn â hi, bydd y cysylltydd yn gofyn rhagor o gwestiynau ynglŷn â’ch sefyllfa ariannol i weld a ydych yn gymwys i dderbyn cyngor arbenigol am ddim.
- Os ydych yn gymwys byddwch yn cael eich trosglwyddo at ymgynghorydd cyfreithiol arbenigol ar unwaith. Bydd yr ymgynghorydd cyfreithiol arbenigol wedyn yn ymgymryd â’ch achos. Bydd yn ysgrifennu llythyrau ar eich rhan ac yn siarad â thrydydd partїon ar eich rhan megis landlordiaid a chredydwyr. Gall hyd yn oed baratoi bwndeli o ddogfennau i chi eu cymryd gyda chi i dribiwnlys cyflogaeth. Gallwch siarad â’ch ymgynghorydd, yn gyfrinachol, mor aml ag yr ydych ei angen, hyd oni ddatrysir eich problem.
- Hyd yn oed od nad ydych yn gymwys neu nad ydym ni’n hunain yn gallu ymdrin â’ch problem gallwn eich rhoi mewn cysylltiad ag asiantaethau, llinellau cymorth neu wasanaethau cynghori lleol eraill a all roi cymorth i chi. Gallwn hefyd eich cyfeirio at adnoddau gwybodaeth gyfreithiol eraill er mwyn rhoi cymorth i chi helpu’ch hun.
- Nid ydym byth yn codi tâl am ein gwasanaethau. Caiff y cyfan o’n cyngor a’n cymorth ei ariannu’n llwyr gan y llywodraeth.
Beth fydd yn digwydd os byddaf yn gofyn i chi roi galwad i mi yn ôl?
Petaech yn gofyn i ni roi galwad yn ôl i chi, bydd y gwasanaeth yr un fath, ond byddwch yn arbed ar gost yr alwad.
Mae cyngor ar gael mewn ieithoedd eraill
Mae gan y llinell gymorth wasanaeth cyfieithu petaech yn dymuno cael cyngor mewn iaith wahanol i Gymraeg neu Saesneg. Mae Llinell Iaith (Language Line) yn darparu gwasanaeth cyfieithu syth bin mewn 170 o ieithoedd.
Minicom a Type-Talk
Croesewir galwadau Minicom a Type-Talk.
- Dyfais teipiadur teleffon yw Minicom ar gyfer cysylltu â neu ymysg pobl fyddar, drwm eu clyw, neu â nam ar eu lleferydd. Rhif Minicom yw 0845 609 6677.
- Mae Type-Talk yn galluogi rhai sydd ag anawsterau clywed i ddefnyddio ffôn testun i gael cyngor drwy deleffon trwy wasanaeth cysylltydd am ddim.










