Skip navigation (access key S)
  • English language
  • Welsh language
  • Urdu language
  • Chinese language
  • Bengali language
  • Punjabi language
  • Gujarati language
  • Hindi language
  • Arabic language
  • Turkish language
Cyngor cyfreithiol cyfrinachol am ddim: 0845 345 4 345

Am gyngor cyfreithiol arbenigol am ddim

0845 345 4 345

Ffoniwch Cyngor Cyfreithiol Cymunedol (Community Legal Advice):

  • Cyngor diduedd, cyfrinachol am ddim y telir amdano gan gymorth cyfreithiol
  • Gwasanaeth gwaith achos llawn
  • Llun - Gwener 9am - 6.30pm
  • Galwadau o 4c/funud - galwad yn ôl ar gael

Canfod ymgynghorydd

 

Teledu Digidol

Os oes gennych chi neu rywun rydych yn ei adnabod fynediad cyfyngedig i’r rhyngrwyd, mae Cyngor Cyfreithiol Cymunedol ar gael yn ogystal ar deledu rhyngweithiol digidol.

Gan ddefnyddio eich teclyn rheoli o bell gallwch:

  • chwilio ein cyfeiriadur am gynghorydd cyfreithiol yn eich ardal
  • gael gwybodaeth ynglŷn â dyled, budd-daliadau a threth, gwaith a thai
  • archebu copïau o’n taflenni gwybodaeth i’w hanfon i’ch cartref
  • ddarllen am ein gwasanaeth.

Gallwch gael mynediad i Gyngor Cyfreithiol Cymunedol drwy ddau wasanaeth: Directgov a Looking Local.

Directgov

Anfonir Cyngor Cyfreithiol Cymunedol i’ch teledu via Direct Gov. Mae DirectGov yn darparu ystod eang o wasanaethau cyhoeddus eraill a gwybodaeth gan y llywodraeth.

Ar y llaw arall, os ydych ar grwydr, gallwch chwilio am gyfreithwyr, archebu taflenni gwybodaeth a derbyn gwybodaeth via Directgov symudol.

Cyfarwyddiadau Teledu Digidol

  • Virgin Media: Gwasgwch y botwm rhyngweithiol, dewiswch News and Info ac yna dewis Directgov (dim tâl)
  • Sky: Gwasgwch y botwm rhyngweithiol a dewis opsiwn 8 (bydd eich Digibox yn rhoi galwad am dâl ar y raddfa leol)

Cyfarwyddiadau ffôn symudol

  • Rhowch www.direct.gov.uk/mobile i borwr rhyngrwyd eich ffôn (yn fras 1c am weld 5 tudalen, yn ddibynol ar eich cytundeb ffôn symudol).

Looking Local

Gallwch hefyd gyrraedd Cyngor Cyfreithiol Cymunedol trwy ddefnyddio Looking Local. Porth teledu digidol llywodraeth leol ydi hwn sy’n cynnwys y DU gyfan. Mae ar gael 24 awr y dydd am ddim via blychau Sky, Virgin a Freeview sydd â chysylltiad modem neu fand llydan.

Mae Looking Local ar gael yn ogystal ar unrhyw ffôn symudol sydd â mynediad i’r rhyngrwyd. Mae’r tâl am fynediad i’r we ar ffôn symudol yn amrywio yn ôl eich gweithredwr.

Cyfarwyddiadau Teledu Digidol

  • Sky: Gwasgwch y botwm Rhyngweithiol, dewiswch SKY Active, yna Interactive Services yna Local Service, yna Looking Local
  • Virgin: Gwasgwch y botwm Rhyngweithiol, dewiswch Home and Away, yna Find it... yna Looking Local
  • Freeview (blychau gyda chysylltiad modem neu fand llydan yn unig) Rhowch y ddolen ganlynol i mewn i borwr: www.digitv.govuk/digitv/cds/
    lookinglocal/mobile/home

Cyfarwyddiadau ffôn symudol