Skip navigation (access key S)
  • English language
  • Welsh language
  • Urdu language
  • Chinese language
  • Bengali language
  • Punjabi language
  • Gujarati language
  • Hindi language
  • Arabic language
  • Turkish language
Cyngor cyfreithiol cyfrinachol am ddim: 0845 345 4 345

Am gyngor cyfreithiol arbenigol am ddim

0845 345 4 345

Ffoniwch Cyngor Cyfreithiol Cymunedol (Community Legal Advice):

  • Cyngor diduedd, cyfrinachol am ddim y telir amdano gan gymorth cyfreithiol
  • Gwasanaeth gwaith achos llawn
  • Llun - Gwener 9am - 6.30pm
  • Galwadau o 4c/funud - galwad yn ôl ar gael

Canfod ymgynghorydd

 

Canolfannau a Rhwydweithiau Cyngor Cyfreithiol Cymunedol

Beth ydynt?

Mae canolfannau a rhwydweithiau Cyngor Cyfreithiol Cymunedol yn darparu cyngor cyfreithiol a gwasanaethau cynrychiolaethol annibynnol a chyfrinachol.

Maent yn dwyn ynghyd ystod eang o wasanaethau cyngor cyfreithiol i’ch helpu chi gyda phroblemau sy’n ymwneud â:

  • budd-daliadau a chredydau treth
  • dyled
  • gwaith
  • tai
  • gofal cymunedol
  • cyfraith teulu

Sefydlir canolfannau a rhwydweithiau trwy Loegr a Chymru gyfan. Mae Canolfannau Cyngor Cyfreithiol Cymunedol yn awr wedi eu hagor yn Derby, Gateshead, Caerlŷr, a Portsmouth.

A allant fy helpu i?

Mae cyngor cyfreithiol cyffredinol ar gael am ddim ar apwyntiad cychwynnol.

Mae cyngor pellach, arbenigol, ar gael os ydych yn gymwys ar gyfer cymorth cyfreithiol. Defnyddiwch ein cyfrifydd cymorth cyfreithiol i gael gwybod a allwch chi gael cyngor am ddim.

Ar gyfer rhai problemau ni fydd raid i chi fod yn gymwys ar gyfer cymorth cyfreithiol er mwyn derbyn cyngor arbenigol, er y bydd yn rhaid i chi fodloni meini prawf eraill efallai. Cewch eich cynghori ynglŷn â hyn yn ystod yr apwyntiad cychwynnol.

Beth os na all y ganolfan na’r rhwydwaith fy helpu?

Os na all y ganolfan na’r rhwydwaith eich helpu rhoddant wybod i chi am ffyrdd eraill o gael cymorth. Er enghraifft, efallai y cewch chi fanylion am sefydliad arall a allai helpu, neu fe roddir cyfarwyddiadau i chi ar sut i ganfod ffynonellau gwybodaeth gyfreithiol.

Beth os na allaf fynd i'r Ganolfan?

Galwch ei gwasanaeth ffôn ar 0845 345 4 345 neu chwiliwch ein cyfeiriadur i gael hyd i gynghorydd cyfreithiol cyfagos.

Canolfan Cyngor Cyfreithiol Cymunedol Derby

Lleolir Cyngor Cyfreithiol Cymunedol Derby yn:
Stuart House
Green Lane
Derby
Ffôn: 01332 295711

Ewch ar ein gwefan (ar gael yn Saesneg yn unig)

Mae'r ganolfan yn agored Llun - Gwener 9am tan 5pm. Os na all y ganolfan fod o gymorth, bydd y staff yn cyfeirio'r ymwelydd at ffynonellau cymorth lleol eraill, ac yn trefnu apwyntiadau pan fo'n bosibl.

Mae'r gwasanaeth yn Derby yn cael ei ddarparu gan Derbyshire Access2Law, cwmni buddiannau cymunedol sy'n cynnwys:

Canolfan y Gyfraith Cyngor ar Bopeth Derby
Cymorth Tai Swydd Derby
Cyfreithwyr Moody a Wooley
Cyfreithwyr Partneriaeth Smith.
Bydd y gwasanaeth yn gweithio'n agos â Derby Advice, gwasanaeth cynghori mewnol y cyngor.

Ariennir y Ganolfan ar y cyd gan Gyngor Dinas Derby a'r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol.

Canolfan Cyngor Cyfreithiol Cymunedol Gateshead

Lleolir Canolfan Cyngor Cyfreithiol Cymunedol Gateshead yn:

5 Regent Terrace

Gateshead

NE8 1LU

Ffôn: 0191 478 5100

Ffacs: 0191 477 4922

Ewch ar ein gwefan (ar gael yn Saesneg yn unig)

Mae’r ganolfan yn agored 9am-5pm, Llun hyd Gwener. Gallwch alw i mewn ac aros i gael gweld rhywun, neu fe allwch wneud apwyntiad ar gyfer adeg sy’n gyfleus i chi.

Mae’r Ganolfan yn ogystal yn cynnig cyngor yn Llyfrgell Blaydon bob dydd Mawrth o 9.30am hyd ganol dydd.

Daeth Canolfan Cyngor Cyfreithiol Cymunedol Gateshead i fod trwy bartneriaeth rhwng CAB Gateshead a Chanolfan Cyfraith Gateshead, ynghyd â thri chwmni o gyfreithwyr: Swinburne a Jackson, Ben Hoare Bell a David Gray a’i Gwmni. Ariennir y Ganolfan ar y cyd gan Gyngor Gateshead a’r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol.

Canolfan Cyngor Cyfreithiol Cymunedol Caerlŷr

Lleolir Canolfan Cyngor Cyfreithiol Cymunedol Caerlŷr yn:

60 Charles Street
Caerlŷr
LE1 1FB

Ffôn: 0845 456 0074

Ewch ar ein gwefan (ar gael yn Saesneg yn unig)

Amseroedd agor: 9.00am tan 6pm Llun i Gwener ac eithrio dyddiau Iau pan fo'r Ganolfan yn agored o 9.00am tan 9.00pm, a Sadyrnau 11.00am tan 2.00pm.

Mae'r gwasanaeth yng Nghaerlŷr yn cael ei ddarparu gan A4e a chyfreithwyr Howells. Ariennir y Ganolfan ar y cyd gan Gyngor Dinas Caerlyr a'r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol.

Canolfan Cyngor Cyfreithiol Cymunedol Portsmouth

Lleolir Canolfan Cyngor Cyfreithiol Cymunedol Portsmouth yn:

1-3a London Road
Portsmouth
PO2 OBQ

Ffôn: 023 9265 6300
Ffacs: 023 9265 6350

Ewch ar ein gwefan (ar gael yn Saesneg yn unig)

Mae'r Ganolfan yn agored 9am - 5pm, Llun, Mawrth, Mercher a Gwener; rydym yn agored 9am - 8pm ar ddyddiau Iau. Gallwch alw draw a disgwyl i weld rhywun, neu wneud apwyntiad ar amser sy'n gyfleus i chi.

Darperir Canolfan Cyngor Cyfreithiol Cymunedol Portsmouth gan Southern Focus Trust a CAB Portsmouth. Ariennir y Ganolfan ar y cyd gan Gyngor Dinas Portsmouth a'r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol.