Yn yr adran hon
Angen siarad â rhywun nawr?
- Cael cyngor cyfreithiol cyfrinachol am ddim
Galwch 0845 345 4 345 - Dydd Llun i Ddydd Gwener 9.00y.b. i 8.00y.p.
- Dydd Sadwrn 9.00y.b. i 12.30y.p.
- Mae galwadau yn costio o 4c y funud - neu gofynnwch i ni galw chi `nôl
Chwiliwch am gynghorwyr yn eich ardal chi
Ynglyn â ni
Mae Cyngor Cyfreithiol Cymunedol yn wasanaeth ymgynghorol cyfrinachol am ddim, a thelir amdano gan gymorth cyfreithiol.
Llinell gymorth
Cewch gyngor cyfreithiol cyfrinachol am ddim trwy alw 0845 345 4 345. Gallwn eich helpu gyda phroblemau dyled, tai, cyflogaeth, addysg a budd-daliadau a chredydau treth. Mae galwadau'n costio o 4c/mun. Pryderu am y gost? Gofynnwch i ni roi galwad yn ôl i chi.
Gwefan
Canfyddwch wybodaeth a chyngor ar ystod eang o bynciau ar ein gwefan. Defnyddiwch ein hoffer rhyngweithiol i ganfod a ellwch chi gael cymorth cyfreithiol, a chwiliwch am ymgynghorwyr cyfreithiol yn agos atoch chi.
Canolfannau cynghori a rhwydweithiau
Mae canolfannau a rhwydweithiau Cyngor Cyfreithiol Cymunedol yn darparu gwasanaethau cynrychioli a chyngor cyfreithiol annibynnol a chyfrinachol. Mae canolfannau a rhwydweithiau yn agor ledled Cymru a Lloegr. Canfyddwch a oes un yn agos atoch chi.
Teledu Digidol
Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod â mynediad cyfyngedig i'r rhyngrwyd, mae Cyngor Cyfreithiol Cymunedol hefyd ar gael ar deledu rhyngweithiol digidol. Gallwch chwilio am ymgynghorydd cyfreithiol, archebu ein taflenni am ddim, a chael gwybodaeth ynglŷn â dyled, tai, addysg, cyflogaeth, a budd-daliadau a chredydau treth.
Eisiau cysylltu â ni?
Canfyddwch sut i gysylltu â ni
A wnaethoch chi helpu pobl i gael cyngor?
Ewch i'n hadran gynghori i weld sut y gallwn ni eich helpu.
